Yng ngwanwyn 2024, byddwn yn cynhyrchu tair sioe wahanol, ond yr un mor gyffrous. Rydym wedi creu 3 swydd i Gyfarwyddwyr Cynorthwyol, sydd ar gael i gyfarwyddwyr ar ddechrau eu gyrfa sydd wedi’u geni, eu magu neu sy’n byw yng Nghymru, ac rydym eisiau dewis un Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer pob cynhyrchiad. Isod mae rhywfaint o fanylion am y sioeau:

Kill Thy Neighbour gan Lucie Lovatt (cyfarwydd Chelsea Gillard)

Cydgynhyrchiad gyda Theatr y Torch, Aberdaugleddau. Mae Caryl a Meirion wedi byw yma ers blynyddoedd – yn magu teulu, yn addurno dro ar ôl tro, yn gwylio cymuned eu pentref yn araf ddiflannu. Nawr mae Caryl yn barod i ddechrau bywyd newydd oddi yma, ond mae Meirion eisiau aros, does dim amheuaeth. Ai teyrngarwch yw hynny? Perthyn? Neu gyfrinach dywyll a fydd yn eu cadw nhw yma am byth? Comedi dywyll Lucie Lovatt am gariad, priodas a theimlo’n gaeth yn eich bywyd eich hun. 

Ymarferion yn dechrau: yr wythnos yn dechrau ar 26 Chwefror 2024

Ffitio: yr wythnos yn dechrau ar 18 Mawrth

Tech: Dydd Gwener 22 Mawrth ymlaen

Sioe Ymlaen Llaw Gyntaf: Maw 2 Ebrill

Noson i Westeion: Iau 4 Ebrill

Sioe olaf yn Theatr Clwyd: Sad 20 Ebrill

Sioe gyntaf yn y Torch: I'w gadarnhau – Mercher 24 Ebrill

Sioe olaf yn y Torch: Sad 4 Mai

Constellations gan Nick Payne (cyfarwydd Daniel Lloyd)

Mae gwenynwr a ffisegydd yn cyfarfod mewn barbeciw. Mae hi'n meddwl am fecaneg cwantwm, theori llinynnau ac amryfalau. Mae e'n meddwl am ei wenyn, mêl ac ecoleg. Oes posib iddyn nhw syrthio mewn cariad byth? Mae Sliding Doors yn cwrdd â When Harry Met Sally, Before Sunrise a 500 Days Of Summer yn y ddrama yma am natur anochel cariad. Mae drama arobryn Nick Payne wedi cael ei pherfformio yn y West End ac ar Broadway. Bydd Constellations yn cael ei c hyflwyno yn y Gymraeg a’r Saesneg, felly dim ond ar gyfer y rhai sy’n rhugl mewn Cymraeg ysgrifenedig a llafar y mae’r rôl hon yn addas.



Ymarferion yn dechrau: yr wythnos yn dechrau ar 8 Ebrill 2024

Ffitio: yr wythnos yn dechrau ar 29 Ebrill

Tech: Dydd Gwener 3 Mai ymlaen

Sioe Ymlaen Llaw Gyntaf: Dydd Gwener 10 Mai

Noson i Westeion: Maw 14 Mai

Sioe olaf SAESNEG: Sad 25 Mai

Tech Cymraeg: Maw 4 a Mer 5 Mehefin

Cymraeg gwisg agored: Iau 6 Mehefin

Sioe olaf GYMRAEG: Sad 8 Mehefin

Wythnosau’r daith: yr wythnos yn dechrau ar 10 a’r wythnos yn dechrau ar 17 Mehefin 2024

(Bydd angen i'r Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar Constellations gynorthwyo gyda'r symud i mewn i leoliad cyntaf y daith, gyda’r dyddiadau i'w cytuno yn fuan).

 

Rope gan Patrick Hamilton (cyfarwydd Francesca Goodridge)

1929. Llundain. Mae dau ddyn ifanc wedi llofruddio cyd-fyfyriwr ac wedi cuddio’r corff mewn cist yn eu fflat. A fyddan nhw’n llwyddo i gelu’r drosedd ysgytwol yma? Pam maen nhw’n cynnal parti i ffrindiau a theulu’r dioddefwr? A fydd unrhyw un yn meiddio ceisio agor y gist sydd bellach yng nghanol yr ystafell…? Drama gomedi dywyll Patrick Hamilton am lofruddiaeth, pŵer a goruchafiaeth.



Ymarferion yn dechrau: yr wythnos yn dechrau ar ddydd Mawrth 28 Mai 2024

Ffitio: yr wythnos yn dechrau ar 17 Mehefin

Tech: Gwe 21 Mehefin ymlaen

Sioe Ymlaen Llaw Gyntaf: Sad 29 Mehefin

Noson i Westeion: Mer 3 Gorffennaf

Sioe olaf: Sad 20 Gorffennaf

 

  • Teitl y Rôl - Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Gwanwyn 2024 (3 rôl ar gael) (2019)
  • Math o Gontract - Llawrydd, cyfnod penodol.
  • Oriau - Bydd disgwyl i’r Cyfarwyddwr Cynorthwyol weithio rhwng 40 a 46 awr yr wythnos, dros gyfnod o 5.5 wythnos.
  • Ffi - £3,000
  • Treuliau - £210 yr wythnos o gynhaliaeth os ydych yn byw mwy na 25 milltir o Theatr Clwyd (CH7 1YA) ynghyd ag ad-daliad teithio yn unol â chytundeb UK Theatre / Equity.
  • Lleoliad Gwaith - Ystafelloedd ymarfer Theatr Clwyd yng Nghanol Tref yr Wyddgrug a lleoliad stiwdio Theatr Clwyd, ‘The Mix’, gyda gwaith paratoi o gartref. Ar gyfer Kill Your Neighbour a Constellations, efalla y bydd angen teithio i leoliadau eraill, ond bydd hyn yn cael ei drafod a'i gytuno gyda'r Cyfarwyddwr Cynorthwyol.
  • Dyddiadau’r Prosiect: -Byddwn yn neilltuo un Cyfarwyddwr Cynorthwyol gwahanol i bob sioe. Er mwyn gwneud cais, rhaid i chi fod ar gael yn llawn o ddiwrnod cyntaf yr ymarferion tan noson gwesteion y cynhyrchiad y mae gennych ddiddordeb ynddo.
Dyddiad cau: 27/10/2023