Bydd y Cydlynydd Ymchwil yn gallu rhoi cymorth i ddarparu gwybodaeth a data a fydd yn ein helpu i asesu pa mor effeithiol rydym o ran cyflawni ein hamcanion. Gellir defnyddio'r wybodaeth hon hefyd i ddarparu dealltwriaeth ehangach o effaith arian Cyngor y Celfyddydau a'r gweithgareddau y mae’n eu cefnogi.
Fel corff cyhoeddus, mae Cyngor y Celfyddydau yn ceisio rheoli ei faterion i'r safon uchaf o ran effeithiolrwydd ac atebolrwydd. Mae’r Cydlynydd Ymchwil yn cyfrannu at waith y tîm Ymchwilio a Gwerthuso i gyrraedd y nod hwnnw.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar radd mewn disgyblaeth berthnasol sy’n cynnwys hyfforddiant ffurfiol mewn damcaniaeth ystadegol a dulliau ymchwilio, a/neu brofiad sylweddol ynghyd â gallu profadwy mewn maes cysylltiedig ag ystadegau.
Bydd gennych brofiad o flaenoriaethu gwaith, gan weithio'n effeithiol dan bwysau a meddu ar sgiliau cyfathrebu da ac ymrwymiad i ddarparu gofal cwsmeriaid ardderchog.
Gweithiwn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ac mae rhuglder yn y Gymraeg (ar lafar ac yn ysgrifenedig) yn ddymunol am y swydd ond nid yn hanfodol.
Mae ein buddion yn cynnwys oriau/patrwm gwaith hyblyg, gwyliau hael a chynllun pensiwn. Am ragor o fanylion a ffurflen gais ewch i www.celf.cymru/newyddion-swyddi-chyfleoedd
Dyddiad cau: 12:00pm canol dydd ar ddydd Llun 29 Mawrth 2021
Cyfweliadau (dros fideo): Dydd Mercher 7 Ebrill 2021
Dylid anfon ffurflenni gais, mewn ffurf Word, at AD@celf.cymru
Noder, ni fydd CV yn cael eu derbyn.
Gweithredwn Bolisi Cyfle Cyfartal ar recriwtio ac chroesawn geisiadau gan bob adran o'r gymuned yn y Gymraeg neu Saesneg. Ond, mae unigolion Du, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig, anabl, a thrawsryweddol wedi’u tangynrychioli yng ngweithlu’r Cyngor Celfyddydau ac o’r herwydd byddem yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr o’r grwpiau hyn sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Bydd mentora neu hyfforddiant yn cael ei ddarparu i berson penodedig o grwp heb gynrychiolaeth ddigonol yn ystod y cyfnod sefydlu, os bydd angen.
Parhaol, Rhan amser, 24.4 awr yr wythnos
Gradd B: £15,443 - £17,272 yn dibynnol ar brofiad
(yn gyfatebol i £23,419 - £26,192 y flwyddyn yn llawn amser)
Lleoliad: Caerdydd