Parhaol, Rhan amser, 24.4 awr yr wythnos

Gradd B: £16,503 - £18,456 yn dibynnol ar brofiad

(yn gyfatebol i £25,026 - £27,988 y flwyddyn yn llawn amser)

Lleoliad: Gellir lleoli’r rôl hon yn unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru (Bae Caerdydd, Caerfyrddin, Bae Colwyn). Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn ffordd hybrid.

Mae ein buddion yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau blynyddol, 2.5 diwrnod braint, oriau/patrwm gweithio hyblyg, , cynllun beicio i'r gwaith a phensiwn cyflog terfynol (6%).

Rydym yn chwilio am Gydlynydd Ymchwil i gynorthwyo gyda chasglu, crynhoi, dadansoddi a chyflwyno data. Bydd y Cydlynydd Ymchwil yn gallu rhoi cymorth i ddarparu gwybodaeth a data a fydd yn ein helpu i asesu pa mor effeithiol rydym o ran cyflawni ein hamcanion.  Gellir defnyddio'r wybodaeth hon hefyd i ddarparu dealltwriaeth ehangach o effaith arian Cyngor y Celfyddydau a'r gweithgareddau y mae’n eu cefnogi.

Fel corff cyhoeddus, mae Cyngor y Celfyddydau yn ceisio rheoli ei faterion i'r safon uchaf o ran effeithiolrwydd ac atebolrwydd. Mae’r Cydlynydd Ymchwil yn cyfrannu at waith y tîm Ymchwilio a Gwerthuso i gyrraedd y nod hwnnw.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar radd mewn disgyblaeth berthnasol sy’n cynnwys hyfforddiant ffurfiol mewn damcaniaeth ystadegol a dulliau ymchwilio, a/neu brofiad sylweddol ynghyd â gallu profadwy mewn maes cysylltiedig ag ystadegau.

Bydd gennych brofiad o flaenoriaethu gwaith, gan weithio'n effeithiol dan bwysau a meddu ar sgiliau cyfathrebu da ac ymrwymiad i ddarparu gofal cwsmeriaid ardderchog.

Yr Iaith Gymraeg

Rydym yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Mae rhuglder yn y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar) yn ddymunol ond nid yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Ar ôl cael eich penodi gallwn eich cefnogi chi i ddysgu, datblygu a gwella’ch sgiliau iaith ymhellach ac i gynyddu eich hyder wrth siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg.

Cynllun Hyderus o ran Anabledd

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, sy'n ymroddedig i gyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r holl feini prawf hanfodol a nodir yn y fanyleb person.

Cyfeiriwch at ddolen Cynllun Cyflogwr hyderus o ran anabledd Gov.uk am ragor o fanylion.

Sut i ymgeisio

Cyflwynwch Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn fformat Word i AD@celf.cymru. Os hoffech chi gyflwyno’ch cais mewn fformat arall, fel nodyn llais, fideo neu fideo Iaith Arwyddion Prydain, cysylltwch â ni yn gyntaf os gwelwch yn dda.

Dyddiad cau:                         12:00yp (canol dydd) Dydd Gwener 8 Rhagfyr 2023

Cyfweliadau:                         Dydd Llun 18 Rhagfyr

Gweithio hyblyg

Mae’r rôl hon yn rôl rhan amser, ond wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol byddwn hefyd yn ystyried cynigion ar gyfer trefniadau gweithio hyblyg neu rannu swydd. Gellir gweithio oriau'r rôl hon dros 3,4, neu 5 diwrnod.

Nodwch yn glir yn eich cynnig ar gyfer unrhyw beth heblaw gweithio’r oriau a hysbysebwyd yn eich e-bost eglurhaol wrth gyflwyno’ch cais.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig.