Yn gweithio: 3 diwrnod yr wythnos
Cyflog: £26,500 pro rata
Tymor Penodol: 3 blynedd
Yn adrodd i Reolwr LocalMotion Caerfyrddin gydag adroddiad llinell doredig i Brif Weithredwr Fiscal Host People Speak Up
Ynglŷn a LocalMotion
Mae LocalMotion yn rhwydwaith trwy’r Deyrnas Unedig o bartneriaethau ar sail lleoliad i frwydro yn erbyn achosion sylfaenol annhegwch cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd gyda rhwydweithiau yn Lincoln, Enfield, Torbay, Oldham a Middlesbrough. Caerfyrddin yw’r unig leoliad yng Nghymru.
Mae LocalMotion Caerfyrddin yn gweithio i archwilio’r themâu hyn trwy ddull diwylliannol. Rydym yn fudiad cyfiawnder cymdeithasol sy’n gweithio ar sail dulliau democrateiddio a grymuso o ddatblygu cymunedol. Rydym yn gweld diwylliant fel offeryn allweddol i lunio a chynllunio newid, meithrin cydweithio a dweud y gwir wrth rym.
Mae ein rhaglen yng Nghaerfyrddin wedi ei seilio ar ddwy system lywodraethu, Cynulliad Pobl Leol, sy’n cynnwys 13 o bobl leol brofiadol a’n Grŵp Craidd. Mae gennym hefyd rwydwaith eang o bartneriaid lleol, rhaglen gyhoeddus a melinau trafod sy’n archwilio ac ymchwilio i wahanol feysydd o’r seilwaith cymdeithasol economaidd. Mae ein gweithgareddau yn eang ac amrywiol ac felly maent ar sawl ffurf wahanol, o roi hyfforddiant, i arddio, i wledd gymunedol, neu hyd yn oed gyhoeddi adroddiadau, gwneud cynigion i gynnal digwyddiadau a symposiymau neu hyd yn oed gweithdy chwarae stryd.
People Speak Up sy’n gwesteio LocalMotion Caerfyrddin.
Byddwch yn cael eich cyflogi a dan gontract gan People Speak UP, os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch ag Eleanor Shaw (Prif Weithredwr) eshaw@peoplespeakup.co.uk
Am ragor o wybodaeth am ein rhaglen gweler localmotioncaerfyrddin.org @localmotioncarmarthen neu anfonwch e-bost at Owen Griffiths Rheolwr Cydweithredu a Newid: Owen.Griffiths@localmotion.org.uk
Y swydd
Disgrifiad Swydd/ Cydlynydd Prosiectau
• Trefnu’r gwaith o gynllunio, gweithredu a gwerthuso Prosiectau LocalMotion.
• Trefnu prosiectau ac arwain ar gyfathrebu yn unol â gweithdrefnau’r Cwmni.
• Mynychu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd perthnasol yn fewnol ac allanol i gynrychioli LocalMotion.
• Hwyluso digwyddiadau, sgyrsiau a gweithdai, ar eich pen eich hun ac fel rhan o dîm ehangach.
• Y gallu i gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig yn Saesneg a’r Gymraeg.
• Cynnal ymchwil, cynllunio, gwaith gweinyddol a gwerthuso ar gyfer hwyluso prosiectau.
• Canfod eitemau ar gyfer hwyluso a digwyddiadau, gan gydymffurfio â gweithdrefnau caffael y Cwmni.
• Mynd i hyfforddiant perthnasol yn ôl y gofyn.
• Hyrwyddo gwerthoedd a gweledigaeth LocalMotion bob amser.
• Unrhyw dasgau eraill rhesymol sy’n cyd-fynd â’r swydd.
Amdanoch chi
• Angerddol am ddealltwriaeth groestoriadol o gyfiawnder cymdeithasol.
• Rhywun sy’n gallu cefnogi a chynorthwyo Rheolwr LocalMotion Caerfyrddin i gyflawni’r rhaglen.
• Cefndir diwylliannol a phrofiad o drefnu prosiectau, fel celfyddydau cymunedol, ymarfer cymdeithasol, ymgysylltu cymunedol.
• Gwybodaeth am sgiliau TG a chyfryngau cymdeithasol a chyfathrebu.
• Deinamig ac yn gallu gweithio gydag amrywiaeth eang o anghenion a chymunedau i gefnogi grymuso.
• Diddordeb a gwybodaeth am newid systemau, cydweithio blaengar, ymgysylltu cymunedol.
• Y gallu i weithio’n ymatebol ac ymateb i sefyllfaoedd sy’n dod i’r amlwg, terfynau amser ac arddulliau cyflwyno.
• Yn mwynhau trefnu, creu systemau a gweithio fel rhan o dîm a meddu sgiliau gweinyddol cryfion.
• Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ac ar lafar rhagorol.
• Byddai’n fanteisiol bod yn siaradwr Cymraeg rhugl.
I ymgeisio
Anfonwch eich CV a llythyr esboniadol yn rhoi enghreifftiau i esbonio sut yr ydych yn bodloni manylebau’r swydd, at Eleanor Shaw eshaw@peoplespeakup.co.uk
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau:
Dydd Llun 24 Chwefror am 10am
Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyfarfod Rheolwr LocalMotion Caerfyrddin, Owen Griffiths, Prif Weithredwr People Speak Up Eleanor Shaw a’r Tîm am gyfweliad ar ddydd Gwener 14 Mawrth yng Nghaerfyrddin.