Llawn amser (37 awr yr wythnos), cytundeb parhaol​ 

I ddechrau cyn gynted â phosibl​ 

Cyflog: £25,000 pro rata, cyflog cychwynnol (agored i drafodaeth yn seiliedig ar brofiad – cysylltwch am sgwrs)​ 

Lleoliad: Rydym yn dîm cydweithredol sy'n gweithio ledled Cymru, gyda swyddfeydd yn Llanystumdwy a Chaerdydd. Rydym yn gweithio mewn modd hybrid ac mae angen presenoldeb yn un o'r swyddfeydd yn rheolaidd ond gellir cyflawni cyfran fawr o'r rôl hon wrth weithio gartref. Os gallai mynychu’r swyddfa eich atal rhag gwneud cais am unrhyw reswm, anfonwch e-bost atom i drafod eich sefyllfa ymhellach.​ 

 

Dyddiad Cau: Dydd Mercher 20 Rhagfyr 2023, 5.00 pm​ 

Cyfweliadau: Dydd Iau 11 Ionawr 2024 

 

Am y Rôl 

Mae hon yn rôl gyffrous a chreadigol lle byddwch yn cyfrannu at ddatblygu proffil ac enw da Llenyddiaeth Cymru, a chynyddu ein cynulleidfaoedd a’n cleientiaid. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm cyfathrebu Llenyddiaeth Cymru, pob un â chyfrifoldebau penodol i helpu i adrodd stori ein sefydliad. 

 

Mewn rôl sy’n cyfuno elfennau o farchnata, hyrwyddo digidol, a chysylltiadau cyhoeddus, bydd un o’ch prif gyfrifoldebau’n cynnwys hyrwyddo ein cyfleoedd a’n gwasanaethau, rhannu ein negeseuon cyfathrebu allweddol, a rhannu effaith ein gwaith. Bydd hyn yn golygu creu a lledaenu cynnwys cyffrous ar gyfer ein sianelau digidol, cynllunio strategol, datblygu cynulleidfaoedd, ysgrifennu copi a golygu, a dadansoddi llwyddiannau ein gweithgareddau cyfathrebu.  

Bydd hyn yn mynd law yn llaw â threfnu digwyddiadau cyhoeddus a chaeedig wedi eu targedu at nifer o randdeiliaid gwahanol, yn cynnwys Gwobrau Llyfr y Flwyddyn a digwyddiadau yn y Senedd yn dathlu pŵer llenyddiaeth. 

 

Meysydd darparu allweddol:  

 

  • Gweithio tuag at gyflawni Strategaeth Gyfathrebu Llenyddiaeth Cymru ynghyd ag aelodau eraill y Tîm Cyfathrebu. Mae’r dyletswyddau’n cynnwys: 

  • Trafod a chyd-greu cynlluniau gweithredu cyfathrebu gyda chydweithwyr, a darparu cyngor a chymorth iddynt ar greu deunydd cyfathrebu. 

  • Blaen-gynllunio a chreu cynnwys digidol, yn ôl amserlenni penodol. 

  • Ysgrifennu, golygu a phrawf-ddarllen copi.  

  • Cyfrifoldeb olygyddol dros wefan Llenyddiaeth Cymru, a chyfrifoldeb dros ei chadw’n gyfredol. 

  • Creu a dylunio astudiaethau achos sy’n rhannu effaith sefydliadol. 

  • Dadansoddi ac adrodd ar lwyddiant gweithgareddau cyfathrebu. 

  • Cynorthwyo â rheoli brand Llenyddiaeth Cymru trwy sicrhau fod cynnwys yn dilyn ein canllawiau Arddull, Tôn Llais, a Brand.  

  • Cefnogi prosiectau cyfathrebu strategol ar y cyd â’r Arweinydd Cyfathrebu a’r Cydlynydd Cyfathrebu. 

     

  • Rheoli Prosiect Llyfr y Flwyddyn, cynnal a datblygu perthynas â’r cyfryngau/y wasg a’r sector llenyddol ehangach, a chael trosolwg o agweddau amrywiol y prosiect.  

  • Cyflwyno digwyddiadau effeithiol ar gyfer ein cyllidwyr a rhanddeiliaid, mewn cydweithrediad â’n Uwch Swyddog Codi Arian a’n Cyfarwyddwr Gweithredol. 

  • Rheoli a datblygu partneriaethau, gan gynnwys adrodd ar effaith i gyllidwyr.  

  • Unrhyw dasgau eraill, yn ôl yr angen.  

 

Yn adrodd i: Arweinydd Cyfathrebu 

 

Addasrwydd ar gyfer y rôl​ 

Rydym yn chwilio am rywun sy’n meddu’r canlynol:​ 

  • Angerdd am lenyddiaeth a’i photensial i ysbrydoli, gwella a chyfoethogi bywydau.​ 

  • Profiad a dealltwriaeth o ddisgyblaethau cyfathrebu a marchnata.​ 

  • Profiad o ysgrifennu copi, cyfieithu a phrawf ddarllen.​ 

  • Y gallu i aml-dasgio, i weithio yn dda dan bwysau, ac i flaenoriaethu dyletswyddau a chyfrifoldebau. 

  • Profiad o drefnu a chydlynu digwyddiadau ac o reoli cyllidebau.​ 

  • Profiad o gydweithio gyda phartneriaid allanol, meithrin a datblygu perthnasau. 

  • Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu cryf, sensitif a chadarnhaol yn y Gymraeg a’r ​Saesneg, yn ysgrifenedig ac ar lafar.​ 

  • Y gallu i feddwl yn greadigol, datrys problemau, bod yn drefnus a blaengynllunio.​ 

 

Ein Polisi Recriwtio 

Wrth wraidd Llenyddiaeth Cymru mae ein tîm o staff, ac rydym yn dibynnu arnynt i gyflawni amcanion a blaenoriaethau’r Cynllun Strategol 2022-27 yn effeithiol. Mae iechyd a llesiant ein tîm yn bwysig i ni ac rydym yn cydnabod pwysigrwydd cynnal diwylliant iach, cefnogol a chynhwysol, sydd hefyd yn adlewyrchu gwir natur cymunedau cyfoethog ac amrywiol Cymru.​ 

 

Nod Llenyddiaeth Cymru yw bod yn sefydliad cynhwysol ac rydym wedi ymrwymo i groesawu ymgeiswyr o ystod eang o gefndiroedd. Rydym yn asesu ceisiadau ar gryfder potensial a byddwn yn gweithredu’n gadarnhaol drwy warantu cyfweliad i ymgeiswyr sy’n cwrdd â gofynion addasrwydd y rôl, ac sy’n adnabod yn ei llythyr cais eu bod yn uniaethu ag un neu fwy o'r datganiadau canlynol: ​ 

 

  • Rwy’n perthyn i gymuned neu grŵp ethnig sydd heb gynrychiolaeth deg yn y sector lenyddiaeth ar hyn o bryd.  ​ 

  • Rwy’n anabl neu yn dioddef o salwch hir dymor. ​ 

  • Rwy’n dod o gefndir incwm isel.  ​ 

 

Ein nod yw datblygu llenyddiaeth fel ffurf ar gelfyddyd sy’n gynrychioliadol ac yn hygyrch i bawb yng Nghymru. Credwn mai'r ffordd orau o gyflawni'r nod hwnnw yw creu gweithlu amrywiol gyda phrofiadau bywyd amrywiol.​ Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein Cynllun Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, 2022-27.  

 

Mae ein fframwaith recriwtio wedi ei ddatblygu fel rhan o raglen Weston JerwoodCreativeBursaries sy’n cefnogi mudiadau celfyddydol yn eu hymdrechion i ehangu eu hagwedd tuag at recriwtio a datblygu talent amrywiol. Rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr a hoffai drafod unrhyw hyblygrwydd ar gyfer y rôl megis rhannu swydd/gweithio rhan-amser/hyblyg a hyd y contract. 

 

Sut i ymgeisio 

 

  1. Darllenwch y swydd ddisgrifiad uchod a’r rhestr o rinweddau yn ofalus. Yn ogystal, darllenwch Gynllun Strategol 2022-27 Llenyddiaeth Cymru yma ac edrychwch ar ein gwefan.​ 

 

  1. Ysgrifennwch lythyr cais* neu greu cais fideo* yn esbonio pam eich bod â diddordeb yn y rôl, a sut yr ydych yn addas ar ei chyfer (e.e., soniwch am eich profiadau, a pha elfennau penodol sy’n eich diddori am y swydd). Bydd ceisiadau ysgrifenedig a cheisiadau fideo yn cael eu hasesu yn gyfartal.​ 

     

    *Uchafswm o 2 dudalen A4, neu fideo 5-munud.​ 

 

  1. Gyrrwch y canlynol at post@llenyddiaethcymru.org erbyn 5.00 pm ar ddydd Mercher 20 Rhagfyr 2023.​ 

 

  • Eich llythyr neu gais fideo; ​ 

  • Eich CV** a manylion dau ganolwr sy’n eich adnabod mewn cyd-destun proffesiynol. Byddwn ond yn cysylltu â chanolwyr ar ôl i gynnig o  gyflogaeth gael ei dderbyn; ​ 

  • Ffurflen Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Llenyddiaeth Cymru wedi ei chwblhau (ar gael yma). ​ 

     

**Uchafswm o 2 dudalen A4​ 

 

Beth fydd yn digwydd nesaf?​ 

Byddwn yn asesu’r ceisiadau ac yn gwahodd ymgeiswyr llwyddiannus i gyfweld ar ddydd Iau 11 Ionawr 2024. Bydd tri aelod o staff Llenyddiaeth Cymru ar y panel cyfweld. Er mai cyfweliad ffurfiol fydd hwn, byddwn yn sicrhau fod pob ymgeisydd yn gyffyrddus â’r broses ymgeisio. Os yw’r broses gyfweld yn peri gofid neu bryder i chi, rhowch wybod i Branwen Llewellyn, Arweinydd Cyfathrebu o flaen llaw fel y gallwn drefnu sgwrs anffurfiol neu sgwrs dros y ffôn/fideo cyn y cyfweliad. Mae croeso i chi gysylltu â ni i drafod y rôl ymlaen llaw, neu i ofyn am ragor o wybodaeth. I siarad â Branwen yn uniongyrchol neu i drefnu galwad yn ôl, anfonwch e-bost ati i Branwen@llenyddiaethcymru.org. Byddwn yn cysylltu â’r holl ymgeiswyr gyda chanlyniad y cyfweliadau erbyn 15 Ionawr 2024.​ 

​ 

Mae Llenyddiaeth Cymru yn elusen gofrestredig sy’n gweithio gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.​ 

Dyddiad cau: 20/12/2023