Gweithio gyda Rubicon: Cydlynydd Allgymorth ac Ymgysylltu
Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan ganolog yn nyfodol ein sefydliad ac i oruchwylio gweithredu llwyddiannus ein rhaglen gymunedol gyffrous.
Teitl Swydd: Cydlynydd Allgymorth ac Ymgysylltu
Llawn Amser
Wedi’i lleoli yng Nghaerdydd
Cyflog: £28,000 y flwyddyn
Mae’r Cydlynydd Allgymorth ac Ymgysylltu yn gyfrifol am gynllunio a rhoi ar waith rhaglenni cyfranogi cymunedol Rubicon i sicrhau bod safon ardderchog o weithgareddau yn cael eu darparu o fewn yr adeilad ac mewn lleoliadau allanol, ac i gynyddu amlygrwydd y sefydliad o fewn yr ardal gyfagos.
Sut i Wneud Cais: I wneud cais, anfonwch CV a llythyr cais at simon@rubicondance.co.uk.
Dyddiad cau: 12 Chwefror 2025
Cyfweliadau: wythnos yn cychwyn 24 Chwefror 2025
Yn eich llythyr cais dylech esbonio pam rydych yn meddwl eich bod yn addas ar gyfer y swydd a dangos eich profiad a sgiliau yn ôl Manyleb y Person yn adran Disgrifiad y Swydd. Gallwch ei gyflwyno’n ysgrifenedig, mewn fideo neu ffeil sain, neu unrhyw fodd arall sy’n hygyrch i chi.
Ni ddylai llythyrau ysgrifenedig fod mwy na dwy dudalen.
Ni ddylai ceisiadau fideo/sain fod mwy na 10 munud.
Os hoffech wneud cais mewn ffurf arall, cysylltwch â ni.
Mae Rubicon Dance yn gyflogwr Cyfle Cyfartal ac wedi ymrwymo i wella ei amrywiaeth er mwyn adlewyrchu’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu. Byddem yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir ac yn enwedig yn annog unigolion gyda phrofiadau a safbwyntiau amrywiol i wneud cais.