Mae MOMA Machynlleth yn recriwtio ar gyfer Curadur Celf Llawrydd i guradu arddangosfa flynyddol Artistiaid Ifainc Cymru / Young Welsh Artists. I gyd-fynd ag ethos yr arddangosfa o gefnogi artistiaid ifanc, mae MOMA Machynlleth bellach yn chwilio am guradur(on) ifanc, sydd hefyd ar ddechrau eu gyrfa i guradu arddangosfeydd nesaf y fenter flynyddol gyffrous hon.
Cefndir
Lansiwyd Artistiaid Ifainc Cymru gan MOMA Machynlleth yn 2020 fel arddangosfa flynyddol yn arddangos gwaith artistiaid o dan 30 oed sydd o/yn byw/gweithio yng Nghymru. Nod yr arddangosfa oedd cyflwyno artistiaid o bob rhan o Gymru i’w gilydd a rhoi llwyfan i artistiaid ar ddechrau eu gyrfa arddangos eu gwaith y tu hwnt i leoliad ysgol/coleg celf yn amgueddfa gelf enwog MOMA Machynlleth.
Mae’r arddangosfa wedi datblygu dros y 4 blynedd diwethaf, ac yn 2023 symudodd i brif ofod arddangos yr amgueddfa, sef Oriel Owen Owen. Ers 2020 mae’r arddangosfa wedi arddangos gwaith bron i 50 o artistiaid ifainc Cymreig cyffrous.
Am wybodaeth bellach ewch i https://moma.cymru/curadur-llawrydd-arddangosfa-artistiaid-ifainc-cymru…
Sut mae ymgeisio?
I ymgeisio, anfonwch ebost i info@moma.machynlleth.org.uk yn cynnwys y canlynol os gwelwch yn dda:
– CV cyfredol yn cynnwys manylion addysg, gwaith ac unrhyw brofiad cuardu neu weithio ar arddangosfeydd blaenorol
– Cyflwyniad i’ch hun sy’n esbonio pam bod gennych ddiddordeb yn y cyfle hwn a pam eich bod yn meddwl eich bod yn addas i’r rôl