Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn creu gwaith dawns uchelgeisiol a difyr i ysbrydoli cynulleidfaoedd a chyfranogwyr ledled Cymru, y DU yn ehangach ac yn rhyngwladol.
Wedi’i lywio gan gyfarwyddyd artistig Matthew Robinson, mae’r cwmni’n chwilio am ddawnswyr chwilfrydig, amryddawn sydd â phrofiad o ystod o ddulliau.
Dylai fod gan ymgeiswyr ddealltwriaeth gorfforol gyfoethog, ymarfer technegol datblygedig a’r gallu i fyrfyfyrio’n feiddgar a chael ymdeimlad o'u celfyddyd unigol.
Mae awydd i gydweithio a datblygu fel rhan o dîm yn bwysig.
Mae profiad o hwyluso a diddordeb brwd mewn ymgysylltu ag eraill yn ddymunol er mwyn cefnogi gweithgarwch ymgysylltu’r Cwmni.
Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn cynnal clyweliadau ar gyfer artistiaid o unrhyw hunaniaeth rhywedd.
Mae’r clyweliad hwn yn berthnasol i’r cyfnod 2024 a 2025 ar gyfer gwaith llawn amser a gwaith seiliedig ar y prosiect.
Dylech gynnwys y dyddiadau rydych ar gael yn eich ffurflen gais.
Bydd y rhaglenni yn y dyfodol yn cynnwys gwaith gan Marcos Morau, Melanie Lane, Matthew Robinson, Faye Tan, Osian Meilir, Leo Lerus, Lea Anderson MBE
Clyweliadau: Dydd Sadwrn 9 Mawrth 2024, gydag adalwad ar ddydd Sul 10 Mawrth 2024
Cynhelir y clyweliadau yn y Tŷ Dawns, Caerdydd.
Dyddiad dechrau’r Contract presennol: 6 Mai 2024
Nod CDCCymru yw bod yn gwmni llawn amrywiaeth ac egni, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir, rhywedd a hil.
I gael rhagor o wybodaeth a phecyn cais ewch i https://ndcwales.co.uk/company-dancer-auditions Dyddiad cau: 12pm dydd Gwener 19 Ionawr 2024
Hysbysir ymgeiswyr llwyddiannus erbyn dydd Gwener 10 Chwefror. Bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod am ganlyniad eu cais.