Ymunwch â ni ar gyfer pennod newydd yn ein hanes...

Mae Seren Books yn chwilio am dri Chyfarwyddwr newydd sy’n dymuno gwneud gwahaniaeth i sut, pwy a pham yr ysgrifennwn yng Nghymru.

Fel un o brif gyhoeddwyr Cymru, rydym ar fin dechrau pennod newydd yn ein hanes wrth inni geisio ailosod ac ailddiffinio blaenoriaethau a gwerthoedd ein busnes – gan ddod o hyd i hunaniaeth newydd a fydd yn gweithio’n galetach i awduron a darllenwyr y Gymru gyfoes, gynhwysol a byd-eang gyfrifol sydd ohoni. Byddem wrth ein bodd pe bai modd ichi ymuno â ni a helpu i’n tywys ar hyd y llwybr hwn.

Nid yw’n ofynnol ichi feddu ar brofiad fel Cyfarwyddwr, nac ychwaith brofiad o’r byd cyhoeddi na’r diwydiannau creadigol. Yn wir, byddai’n wych o beth pe baech wedi dweud yn y gorffennol na fyddai swydd Cyfarwyddwr yn gweddu i chi – efallai eich bod yn pryderu ynglŷn â’r llwyth gwaith neu ynglŷn â chael eich clywed. Byddem yn siŵr o werthfawrogi eich profiad bywyd yn fawr. Addawn beidio â dwyn gormod o’ch amser ac addawn y cewch eich clywed.

Y peth pwysicaf i ni yw gwybod eich bod yn dymuno esgor ar newid cadarnhaol. Byddwch yn cyfrannu at benderfyniadau’n ymwneud â’r awduron a’r gweithiau a gyhoeddwn, gan helpu i ailddiffinio diwylliant llenyddol Cymru a’i gyrhaeddiad ledled ein gwlad a thu hwnt. Hefyd, byddwch yn helpu i sicrhau dyfodol Seren fel llwyfan hollbwysig ar gyfer y genhedlaeth nesaf o awduron.

Os yw hyn yn apelio atoch, ac os ydych awydd creu cysylltiadau newydd a chael ambell lyfr am ddim, daliwch ati i ddarllen.

A ydych yn meddu ar unrhyw un o’r profiadau a’r sgiliau canlynol?

  • Cyllid
  • Cyfreithiol
  • Ysgrifennu Creadigol, yn enwedig Barddoniaeth
  • Rheoli Data a TG
  • Marchnata a Chyfathrebu
  • Profiad bywyd yn ymwneud â hiliaeth, ableddiaeth a/neu dlodi
  • Dan 35 oed
  • Yn rhugl yn y Gymraeg

Os mai ‘ydw’ yw’r ateb ar gyfer un neu fwy o’r cwestiynau hyn, yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych – yn enwedig os nad ydych yn siŵr sut y byddai pethau’n gweithio. Rydym yn hyblyg – hynny yw, pan fo modd byddwn yn trefnu cyfarfodydd a thrafodaethau o’ch cwmpas chi ac yn gofyn am eich

cymorth ar eich telerau chi. Rydym eisiau ichi fod yn rhan o dîm Seren, ac mae hynny’n golygu perthynas fuddiol a llawn parch i’r naill ochr a’r llall.

Os hoffech gael sgwrs anffurfiol, cysylltwch â seren@serenbooks.com gan roi rhywfaint o wybodaeth amdanoch eich hun. Hefyd, nodwch a ydych ar gael ar gyfer galwad ffôn neu alwad Zoom a nodwch eich manylion cyswllt.

I gael rhagor o wybodaeth amdanom, ewch i www.serenbooks.com.

 

AMODAU A THELERAU
Cyflog: Swydd wirfoddol
Cyfnod: Penodiad 3 blynedd gyda’r posibilrwydd o’i ymestyn am 3 blynedd arall.
Oriau: Oddeutu 2 awr y mis (yn bennaf ar gyfer cyfarfodydd chwarterol y Bwrdd a’r is-bwyllgorau, yn ogystal â rhai trafodaethau ad hoc, sesiynau cynllunio a gweithio strategol, a rhywfaint o ddarllen os ydych yn awyddus). Gallwn fod yn hyblyg iawn ar gyfer yr unigolion iawn.

 

SUT I YMGEISIO
I wneud cais, naill ai ysgrifennwch lythyr eglurhaol hyd at 2 dudalen o hyd NEU gwnewch ffilm neu fideo ohonoch eich hun a fydd yn para hyd at 5 munud. Nid oes gwahaniaeth pa un a ddewiswch a byddwn yn fodlon derbyn y naill fformat neu’r llall – felly mae croeso ichi ddewis pa fformat bynnag sy’n gweddu orau i chi. Yn eich llythyr eglurhaol neu eich fideo, soniwch amdanoch eich hun ac unrhyw brofiadau sydd gennych a allai fod yn berthnasol i swydd fel un o’n Cyfarwyddwr. Hefyd, dywedwch at beth ydych yn anelu mewn bywyd. Beth sy’n bwysig i chi? Beth ydych yn credu ynddo? Ble yr hoffech fod ymhen 3 blynedd? Pa newidiadau yr hoffech eu gwneud i’ch cymdeithas? Beth ydych yn mwynhau ei wneud?

Anfonwch eich llythyr eglurhaol neu eich fideo a’ch CV (hyd at 2 dudalen os gwelwch yn dda, ynghyd â geirdaon) i’r cyfeiriad e-bost seren@serenbooks.com erbyn 31 Mawrth 2024.

Os cewch eich rhoi ar y rhestr fer, byddwn yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn cyfweliad dros Zoom. Yn ôl pob tebyg, bydd y cyfweliad yn cael ei gynnal yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 8 Ebrill 2024. Sgwrs gyfeillgar, eithaf anffurfiol, oddeutu 30 munud o hyd, fydd y cyfweliad, a bydd oddeutu pedwar o bobl yn cymryd rhan ynddo, yn cynnwys Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro a Chadeirydd Dros Dro Seren. Cyn y cyfweliad, byddwn yn anfon atoch fraslun o’r cwestiynau y byddwn yn eu gofyn, ynghyd â bywgraffiadau byr o’r uchod. Os oes gennych gwestiynau ynglŷn â’r rôl neu’r broses, mae croeso ichi gysylltu â ni ar seren@serenbooks.com

Dyddiad cau: 31/03/2024