Mae Canolfan Celfyddydau Pontardawe yn ganolfan gelfyddydau a diwylliannol amlbwrpas yng nghanol Cymru. Cynhelir gwaith proffesiynol o’r safon uchaf yn y theatr hardd draddodiadol hon, o gerddoriaeth werin, y byd a’r blŵs i gerddoriaeth glasurol, digrifwyr ar eu traed i sgyrsiau gan enwogion, dawns i ddrama, llenyddiaeth i ddigwyddiadau i blant.

Yn dilyn cystadleuaeth agoriadol, mae Childs Sulzmann Architects wedi datblygu cynllun i ailwampio’r tu mewn i’r adeilad yn helaeth ac adeiladu estyniad newydd i ddarparu lle sinema dynodedig.

Mae Childs Sulzmann Architects wedi bod yn datblygu cynlluniau gydag Awdurdod Castell-nedd Port Talbot ac maent wedi cyflwyno ffurflen cyn ymgeisio. Fel rhan o’r broses cyn ymgeisio, tynnwyd sylw arbennig at y driniaeth i ffasâd allanol yr estyniad i’r sinema a sut mae hyn yn ymwneud â chyddestun y safle ehangach.

Hoffai’r cleient, Awdurdod Castell-nedd Port Talbot, benodi artist i helpu i ddatblygu ffasadau’r sinema ar y cyd â Childs Sulzmann Architects. Penodir yr artist yn uniongyrchol gan Awdurdod Castell-nedd Port Talbot ond bydd yn gweithio’n agos â Childs Sulzmann Architects i ddatblygu’r syniadau i’w cynnwys yn y cais cynllunio.

Bydd yr artist yn rhan hollbwysig o’r tîm dylunio, gan helpu i greu ffasâd diddorol sy’n weledol drawiadol a fydd yn helpu i integreiddio’r adeilad yn y cyd-destun lleol, yn bensaernïol ac yn ddiwylliannol.

Manylion llawn i'w gweld yn y briff isod: