Cefndir
Sefydlwyd Canolfan Bleddfa ym 1974 fel man ar gyfer creadigedd a chymuned gan y cyfarwyddwr theatr, offeiriad, ac awdur Prydeinig arloesol James Roose-Evans. Wedi’i lleoli yn nhirlun prydferth a phrin ei phoblogaeth y Canolbarth rhwng Trefyclo a Llandrindod, daeth yn ganolbwynt sefydledig am y celfyddydau gydag ymrwymiad i syniadau, ysbrydolrwydd, cerddoriaeth, a’r amgylchedd. Yn 2023 unodd Canolfan Bleddfa ag elusen celfyddydau wledig gyfagos arall, Ymddiriedolaeth Sidney Nolan ger Llanandras, sydd erbyn hyn yn rheoli’r safle. Rydym yn gweithio gyda’r gymuned wledig wasgaredig ym Mleddfa a’r cylch i’w hailadeiladu’n ganolbwynt creadigol.
Dau adeiliad sydd gan y Ganolfan, sef y cyn Ysgol a’r Ysgubor Neuadd, y ddau wedi’u lleoli mewn man gwyrdd sylweddol. Mae’r Ganolfan wrth ymyl eglwys hanesyddol bwysig St Mary Magdalene, y mae rhannau ohoni’n dyddio’n ôl i’r 13edd ganrif. Nid oes unrhyw neuadd eglwys na neuadd bentref ym Mleddfa, ac mae tafarn y pentref ar gau ers nifer o flynyddoedd, felly mae’r Ganolfan yn cynnig man ymgynnull a chyfleuster hanfodol sydd wrth galon y gymuned hon. Ar hyn o bryd mae ond ar agor am ddigwyddiadau penodol sy’n cael eu trefnu ac i’r gymuned ei defnyddio/llogi.
Cyfle
Gyda chefnogaeth hael Sefydliad Teulu Ashley, rydym yn cynnig preswyliad artist 9-mis i gychwyn yng ngwanwyn 2025 a dod i ben erbyn Rhagfyr 2025. Anelir y preswyliad at artistiaid ag arfer ymgysylltiad cymdeithasol cryf ac sy’n ymddiddori mewn gweithio’n gydweithredol ag unigolion ac aelodau’r gymuned a phartneriaid rhanbarthol i helpu i gynhyrchu a hyrwyddo gweithgarwch creadigol newydd yn y Ganolfan.
Tri nod sydd i’r preswyliad:
- Cynnig lle ac amser i’r derbynnydd ddatblygu eu harfer creadigol yng nghyd-destun cymdeithasol a daearyddol Bleddfa, y Ganolfan, a’i hanes a’i hethos, ynghyd â chyfleoedd i rannu/gwerthu eu gwaith fel y bo’n briodol.
- Cefnogi rhagor o fynediad i’r Ganolfan a chyfleoedd creadigol i gymunedau lleol/ rhanbarthol trwy alluogi a meithrin ymwybyddiaeth o raglen o weithgareddau ymgysylltu â’r celfyddydau/cymdeithasol/llesiant fel gweithdai, cylchoedd creu/ sgwrsio, mentrau dan arweiniad y gymuned – disgwyliwn i hyn fod yn gymysgedd o rywfaint o weithgarwch a gyflenwir gan y derbynnydd a galluogi ymarferwyr/ athrawon eraill i gyflenwi.
- Gweithio gydag Ymddiriedolaeth Sidney Nolan, aelodau’r gymuned a phartneriaid rhanbarthol ar gyfleoedd cydweithredol am ddigwyddiadau/ ymgysylltu celfyddydol, er enghraifft yn rhaglen ehangach yr Ymddiriedolaeth, Eglwys gyffiniol St Mary Magdalene, digwyddiadau cynllun Noson Allan Cyngor Celfyddydau Cymru, cyfleoedd sgrinio Flicks in the Sticks.
Trwy gydol y preswyliad ein bwriad yw peilota, profi a gwerthuso ystod o ddefnyddiau creadigol a chymdeithasol am Ganolfan Bleddfa, a meithrin cyfranogiad, hyder a rhwydweithiau. Oddi yno, gobeithiwn sefydlu modelau a phartneriaethau llwyddiannus sy’n cefnogi dyfodol cynaliadwy gyda rhagor o ddefnydd a hygyrchedd.
Bydd yr Artist/iaid yn derbyn bwrsari o £5750. Mae £1000 pellach ar gael am weithio gydag Ymddiriedolaeth Sidney Nolan i gefnogi digwyddiadau, gweithdai a gweithgareddau ymgysylltu i’r cyhoedd. Bydd gan yr Artist/iaid ddefnydd unigryw man stiwdio pwrpasol yn adeilad hen Ysgoldy’r pentref sy’n cynnig mynediad hyblyg. Mae’r Ysgubor Neuadd ar y safle’n cynnig cyfleoedd pellach am weithio gyda grwpiau, gweithdai a digwyddiadau.
Sylwch fod llety gwyliau un ystafell wely ar un pen adeilad yr Ysgoldy yr ydym yn disgwyl iddo ddod yn ôl i ddefnydd yn ystod 2025, felly bydd angen i’r artist weithio mewn modd sy’n cymryd i ystyriaeth defnydd y llety hwn ar gyfer gwyliau/defnydd achlysurol yr Ymddiriedolaeth.
Pwy sy’n gallu gwneud cais?
Gwahoddir ceisiadau gan artist/iaid sy’n byw ac yn gweithio yn rhanbarth y Canolbarth a’r gororau sydd o fewn 15 mlynedd ers cychwyn eu hymarfer. Nid yw’r cyfle’n cael ei gyfyngu gan ffurfiau ar gelfyddyd, rydym yn chwilio yn hytrach am artist/iaid sydd â diddordeb cryf a phrofiad blaenorol o gyd-gynhyrchu ac ymgysylltu cymunedol. Yn ddelfrydol byddwch yn gallu dangos profiad o gynllunio digwyddiadau a rhaglenni gweithgareddau ar gyfer y cyhoedd. Croesawn geisiadau oddi wrth artistiaid sy’n ddeuawdau/cydweithrediadau.
Sut i wneud cais
Cyflwynwch fynegiant o ddiddordeb (dwy ochr A4 ar y mwyaf) sy’n rhoi manylion:
• Eich diddordeb yn y cyfle a’ch meddyliau am sut byddech yn mynd ati i gyflawni’r canlyniadau
• Eich profiad blaenorol sy’n berthnasol i’r cyfle
Yn ogystal, rhowch yr wybodaeth ategol ganlynol
• Curriculum vitae (dwy ochr A4 ar y mwyaf)
• Hyd at 8 enghraifft o waith blaenorol - delweddau, testun neu dolenni â fideo.
• Manylion dau ganolwr
Y dyddiad cau am geisiadau yw Dydd Mawrth 18 Chwefror
Anfonwch geisiadau at antony@sidneynolantrust.org
Os hoffech chi drafod y cyfle neu os oes angen cefnogaeth arnoch gyda’r broses ymgeisio, cysylltwch ag antony@sidneynolantrust.org neu 01544260149
Llunio rhestr fer a dethol
Caiff ceisiadau eu didoli’n rhestr fer ar sail y meini prawf canlynol:
• Ansawdd gwaith blaenorol
• Perthnasedd eich ymarfer a’ch profiad i’r cyfle
• Profiad o ymgysylltu â’r cyhoedd/cymunedau
Bydd artistiaid sy’n cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd i fynychu cyfweliad ar Dydd Mercher 12 Mawrth. Yn ddelfrydol bydd y cyfweliadau’n cael eu cynnal yng Nghanolfan Bleddfa ond bydd cyfweliadau ar-lein yn cael eu hystyried.
Dysgwch fwy am Ymddiriedolaeth Sidney Nolan
Dysgwch fwy am hanes Canolfan Bleddfa a’i sylfaenydd James Roose-Evans