Tâl o £7,000 y flwyddyn. Cyfnod penodol o 2 flynedd.
Swydd Llywodraeth Cymru sy’n cael ei gontractio gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Cytundeb: |
|
Tâl o £7,000 y flwyddyn. Cyfnod penodol o 2 flynedd.
|
Mae gan y Cadeirydd swyddogaeth hanfodol i arwain Bwrdd y Prosiect. Fel Cadeirydd, byddwch yn cydweithio'n agos â Chyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru, Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gyflwyno Oriel Genedlaethol Celf Gyfoes i Gymru. Mae hyn yn gofyn am unigolyn hynod ymroddedig, brwdfrydig ac awyddus sy'n gallu llywio Bwrdd y Prosiect drwy'r sawl her sy'n wynebu sector y celfyddydau gweledol yn ystod cyfnod economaidd mor anodd. Rydym yn chwilio am berson sy'n deall arwyddocâd y cyfle i greu Oriel Genedlaethol Celf Gyfoes i Gymru.
Swyddogaeth y Cadeirydd fydd:
- Darparu arweinyddiaeth effeithiol i Fwrdd y Prosiect a chynrychioli barn Bwrdd y Prosiect i Weinidogion a'r cyhoedd yn gyffredinol
- Gweithredu mewn ffordd sy'n hyrwyddo safon uchel o ran priodoldeb a chyllid cyhoeddus ac yn sicrhau bod gweithgareddau Bwrdd y Prosiect yn cael eu cynnal yn effeithlon ac yn effeithiol
Dyddiad cau: Hanner dydd ar 10 Mawrth 2023
Cyfweliadau: I’w cadarnhau
Os ydych yn dymuno cael gwybod rhagor am y swydd neu os hoffech gael trafodaeth anffurfiol, mae croeso i chi gysylltu â richard.nicholls@celf.cymru
Dylech ymgeisio drwy gyflwyno CV a llythyr esboniadol byr (dim rhagor na dwy ochr o A4) sy’n mynd i'r afael â gofynion y swydd, ynghyd â manylion cyswllt dau ganolwr a Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Os hoffech gyflwyno eich cais mewn fformat arall, fel ar ffurf nodyn llais neu fideo yn yr Arwyddeg, cysylltwch â ni'n gyntaf.
Dylid anfon ceisiadau at: richard.nicholls@celf.cymru erbyn hanner dydd ar 10 Mawrth 2023.
Rydym ni’n annog a chroesawu'n gynnes geisiadau gan bobl sy’n ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a chan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae ceisiadau'n cael eu croesawu yn Gymraeg neu yn Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni chaiff ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sydd wedi'u cyflwyno yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael eu dewis ar gyfer swyddi gwag ar gownt eu haddasrwydd ar gyfer y swydd yn unig.