Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn chwilio am Arweinydd Ymgysylltu Cymunedol, i weithio ar brosiect cydweithredol 12 i 15 mis o hyd - ‘Lleisiau Newydd Cymru’ sy’n cael ei ariannu gan gronfa ‘Cysylltu a Ffynnu’ (Connect and Flourish) y Loteri Genedlaethol Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae’r prosiect yn adlewyrchu treftadaeth gyfoethog Eisteddfod Llangollen gan ymestyn yn ôl i arloesedd unigryw’r sylfaenwyr ym 1947, ac mae’n cyd-fynd ag amcan y sefydliad o ddefnyddio’r Celfyddydau i ddod â gwahanol bobloedd ynghyd mewn ysbryd o heddwch a chyfeillgarwch.
Crëwyd ‘Lleisiau Newydd Cymru’ i archwilio natur amlddiwylliannol ac amlieithog y Gymru fodern, ac i ddatgloi potensial creadigol cymunedau. Gan weithio gyda phartneriaid proffesiynol allweddol, ymarferwyr celfyddydol a 10 grŵp cymunedol ledled Cymru, bydd y prosiect yn defnyddio adrodd straeon i ddod â phobl ynghyd, gan ddefnyddio cerddoriaeth, dawns, barddoniaeth a llenyddiaeth wedi’u cydblethu i greu mynegiant grymus a chyfoethog o dreftadaeth ddiwylliannol.
Bydd yr Arweinydd Ymgysylltu Cymunedol yn gweithio gyda chwmni Cynhyrchu Creadigol annibynnol i ymgysylltu â chymunedau amlddiwylliannol ac amlieithog ledled Cymru er mwyn adnabod a datblygu 3 phrosiect cymunedol yn arwain at Eisteddfod Llangollen yn 2024, a 7 prosiect arall yn arwain at y digwyddiad yn 2025. Bydd ymchwil a datblygiad cychwynnol yn digwydd o Ionawr 2024 ymlaen ac yna gweithgaredd cymunedol a grŵp, yn arwain at y 3 phrosiect cychwynnol a fydd yn cael sylw yn Llangollen ym mis Gorffennaf 2024. Bydd datblygiad creadigol yn parhau ar ôl digwyddiad 2024, i arwain a chefnogi 7 o brosiectau grŵp arall fydd yn cael sylw yn Eisteddfod Llangollen 2025.