Mae Arddangosfa Gelf Agored Canolbarth Cymru yn ei blwyddyn gyntaf ac ar fin dod yn ddigwyddiad blynyddol cyffrous.

Bwriad yr arddangosfa yw denu cymysgedd eang o artistiaid newydd a phroffesiynol o Gymru a thu hwnt. Bydd yn cael ei reoli, ei guradu a’i farnu gan dîm o weithwyr proffesiynol profiadol, sy’n gweithio yn y Celfyddydau, sy’n credu bod cael mynediad i gelfyddyd a chael profiad ohoni yn hanfodol i ddatblygu a gwella ein bywydau.

Bydd arddangosfa flynyddol yn rhoi llwyfan i artistiaid arddangos eu gwaith a chysylltu â chynulleidfa ehangach. Bydd categorïau mynediad ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion, gyda gwobrau ariannol, gan gynnwys gwobr dewis pobl.  

Eleni cefnogir yr arddangosfa gan yr elusen gelfyddydol leol sefydledig, Celf o Gwmpas. Bydd yn cael ei gynnal o ddydd Iau 10fed o Orffennaf tan ddydd Sul 27ain o Orffennaf 2025 yn yr Auto Palace, Llandrindod, man hanesyddol sydd newydd gael ei adnewyddu.
 

Dyddiad cau: 30/05/2025