Mae gan Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen hanes balch o 76 mlynedd o ddod â chymunedau byd-eang ynghyd trwy gerddoriaeth, dawns a chreadigrwydd i hyrwyddo heddwch a dealltwriaeth.  Mae’r Eisteddfod yn cael ei chydnabod fel un o wyliau mwyaf blaenllaw’r byd ac mae hyd yn oed wedi cael ei henwebu ar gyfer Gwobr Heddwch Nobel.  Dros 75 mlynedd mae wedi denu dros 400,000 o gystadleuwyr yn dod â dros 140 o ddiwylliannau i Ddyffryn Dyfrdwy. Eiconau diwylliannol gan gynnwys Dylan Thomas, y Fonesig Shirley Bassey a Luciano Pavarotti.  Yn 2024, diolch i drefniant cydweithredu newydd gyda Cuffe & Taylor, bydd ein cyngherddau gyda’r nos yn ymestyn dros bedair wythnos gan gynnwys Manic Street Preachers a Suede yn ogystal â Paloma Faith a mwy o berfformwyr eto i’w cadarnhau.

Rydym bellach yn chwilio am dîm codi arian neu godwr arian llawrydd i ymuno â’n tîm. Yn y rôl hon, bydd y codwr arian yn defnyddio sgiliau cyfathrebu arbenigol ac ymdeimlad brwd o fenter i weithio gyda’n Grŵp Codi Arian i adnabod cyfleoedd am grantiau, cyfleoedd codi arian, datblygu perthnasoedd â rhoddwyr posibl, a datblygu ymgyrchoedd codi arian. Drwy gydlynu digwyddiadau, ysgrifennu bidiau, a recriwtio ac arwain gwirfoddolwyr, bydd y codwr arian yn helpu i fireinio galluoedd ein tîm gwirfoddol wrth drafod, cynnig ac ysgrifennu ceisiadau am grantiau, a rheoli perthynas wrth ein symud yn agosach at ein nodau ariannol.

Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn unigolyn ysgogol, yn broffesiynol ac yn drefnus ac yn meddu’r ddawn i wneud y gorau o bosibiliadau. Rydym yn chwilio am rywun sy’n credu yng nghenhadaeth ac ethos Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ac sydd ag awydd eithriadol i hyrwyddo llwyddiant ein grantiau a’n hymdrechion codi arian yn ogystal â strategeiddio a chyflawni rhai newydd.

Amcanion y rôl hon

  • Hyrwyddo ymwybyddiaeth o genhadaeth a gwaith y sefydliad
  • Gweld a datblygu cyfleoedd codi arian newydd
  • Datblygu strategaeth a chanllawiau codi arian i dyfu ffrydiau incwm newydd
  • Meithrin rhwydwaith o roddwyr a gwirfoddolwyr ymroddedig drwy strategaeth rhoi unigol
  • Cynllunio mentrau codi arian i helpu’r sefydliad i gyflawni nodau ariannol
  • Targedu a rheoli Noddwyr
  • Sicrhau bod rhoddwyr mawr yn fodlon ac yn cael y wybodaeth ddiweddaraf
  • Gwella ein gallu i adnabod a chyflawni cyllid grant

 Cyfrifoldebau

  • Ymchwilio i unigolion, corfforaethau a sefydliadau sydd â diddordeb mewn rhoi rhoddion / gwneud gwaith partneriaeth
  • Cyfleu cenhadaeth a gweledigaeth a rhaglenni y sefydliad yn effeithiol i ddarpar roddwyr
  • Ysgrifennu ceisiadau grant a bidiau codi arian
  • Cyfuno a gweithredu ymgyrchoedd codi arian yn llwyddiannus
  • Trefnu digwyddiadau codi arian wrth oruchwylio timau o wirfoddolwyr
  • Rheoli cyllideb a thracio a yw nodau’n cael eu cyflawni

Sgiliau a chymwysterau gofynnol

  • O leiaf tair blynedd o brofiad mewn codi arian, gwerthu neu farchnata
  • Sgiliau cyfathrebu a meithrin perthynas eithriadol
  • Y gallu i arwain ac ysgogi cydweithwyr a gwirfoddolwyr
  • Sylw cryf i fanylion
  • Angerdd am ymchwil
  • Y gallu i gydbwyso blaenoriaethau yn llwyddiannus wrth reoli tasgau niferus a chynllunio digwyddiadau mawr

Sgiliau a chymwysterau a ffefrir

  • Siaradwr Cymraeg
  • Gradd Baglor (neu gyfwerth) mewn cyfathrebu, busnes, cysylltiadau cyhoeddus, neu faes cysylltiedig
  • Tystysgrif, diploma, neu gymhwyster tebyg mewn codi arian
  • Cymhwysedd gyda systemau rheoli rhoddwyr
  • Profiad llwyddiannus o ysgrifennu bidiau am grant, datganiadau i’r wasg, a llythyrau codi arian
  • Hyder mewn siarad cyhoeddus
  • Profiad cyfreithiol neu gyfrifyddu a mwy

Y tâl am y gwaith hwn fydd £300 y dydd am 66 diwrnod, i’w weithio tan ddiwedd y contract ar 1 Hydref 2024. Bydd disgwyl i’r mwyafrif o ddiwrnodau gwaith fod cyn yr Eisteddfod ym mis Gorffennaf a bydd disgwyl presenoldeb ar y safle drwy gydol yr ŵyl. Mae costau teithio a llety yn cael eu cynnwys o fewn y tâl dyddiol.

Bydd y Bwrdd yn croesawu awgrymiadau amgen i’r strwythur taliadau uchod a chynigion ar gyfer ffyrdd arloesol o weithio.

I wneud cais

Rhowch eich CV ac amlinelliad 3x A4 ar y mwyaf, o pam mae gennych ddiddordeb yn y gwaith a’ch meddyliau cychwynnol ar sut y byddech yn gallu cael effaith gadarnhaol ar ein gwaith codi arian ar gyfer yr Eisteddfod. Fel arall, ochr yn ochr â’ch CV, gallwch gyflwyno fideo o hyd at 15 munud. Byddem yn hapus i dderbyn ceisiadau gan dimau a fydd yn rhannu’r gwaith yn unol â’u harbenigedd unigol. Rhaid derbyn pob cais drwy e-bost i recruitment@llangollen.net erbyn 5pm dydd Mawrth 28 Tachwedd.

Os hoffech siarad â Rheolwr Gweithrediadau’r Cadeirydd am y cyfle hwn, cysylltwch ag info@llangollen.net

Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Celfyddydau Cymru am ariannu’r swydd hon.

Dyddiad cau: 13/02/2024