Cefndir

Roedd Eirian Llwyd yn creu printiau nodedig iawn. Hi oedd sylfaenydd Y Lle Print Gwreiddiol. Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Goffa yn ei henw i gynnig gwobrau ariannol i artistiaid newydd a rhai sy’n dod i’r golwg yng Nghymru sy'n gwneud printiau.

Gyda chymorth yr Ymddiriedolaeth, hoffem gynnig gwobr i un artist bob blwyddyn a gaiff hyd at £2,500.

Caiff curaduron oriel a chanolfannau argraffu yng Nghymru y cyfle i enwebu artist printiau ymroddgar a thalentog a fyddai’n elwa o’r cyfle.

Croesawn yn arbennig enwebu gwneuthurwyr printiau o gefndiroedd a dangynrychiolir. Gall hyn olygu pobl sy'n wynebu rhwystrau i gyfleoedd oherwydd eu rhywioldeb, eu hethnigrwydd, eu cefndir cymdeithasol ac economaidd neu eu hanabledd.

Bwriad yr arian yw galluogi'r artist i ddatblygu a pharhau â gwneud printiau, er enghraifft: prynu offer creu printiau, cynnal sioe unigol, preswyliad printiau neu fentora gan rywun mwy profiadol.

Mae gwybodaeth am gymhwysedd a meini prawf asesu wedi'u cynnwys yn y canllawiau isod, gweler yr adran Cymorth.

I enwebu, anfonwch e-bost at gwobraucoffa@celf.cymru gyda'r wybodaeth ganlynol wedi'i chynnwys fel un atodiad ar ddogfen word neu pdf.

  • enw, cyfeiriad e-bost ac iaith cyswllt (Cymraeg neu Saesneg) yr artist
  • datganiad (500 gair ar y mwyaf) i esbonio eich rhesymau dros enwebu
  • CV a Datganiad Artist
  • 6-8 llun o’i waith diweddar neu 5 munud o ffilm/perfformiad. Os oes dolenni â chyfrinair, rhowch wybod inni am y cyfrinair

Gwneir y penderfyniadau dyfarnu erbyn dechrau mis Gorffennaf 2022

Cymorth
Nodiadau cymorth gyda chyllid01.04.2022

Canllawiau Gwobr Goffa Eirian Llwyd