Cefndir

Mae’n bleser gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, gyhoeddi parhad Cynefin: Cymru ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.

Ein nod yw ehangu’r rhwydwaith o ysgolion ledled Cymru a fydd yn cael eu cefnogi i ddyfeisio a chyflwyno prosiectau cydweithredol creadigol sy’n ymwneud â:

  • deall hanes a datblygiad Cymru fel cymdeithas ddiwylliannol ac ethnig amrywiol
  • archwilio profiadau a chyfraniadau pobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol Cymru, ddoe a heddiw
  • ennill ymwybyddiaeth o'r bobl, y diwylliannau a'r cymunedau sy'n rhan o'r Gymru gyfoes
  • archwilio hunaniaeth mewn perthynas â thyfu i fyny yn y Gymru gyfoes
  • ategu dulliau ac arferion gwrth-hiliol presennol
  • gweithio ochr yn ochr ag Arweinwyr Creadigol mewn amgylchedd dysgu i wella ansawdd yr addysgu a'r dysgu

Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano

Rydym yn gwahodd ysgolion o bob rhan o Gymru i fod yn rhan o’n harlwy dysgu creadigol diweddaraf a fydd yn cysylltu ysgolion ag Arweinwyr Creadigol ysbrydoledig. Lle bo modd, rydym yn awyddus i weithio gydag Arweinwyr Creadigol o gefndiroedd diwylliannol ac ethnig amrywiol er mwyn ychwanegu dilysrwydd i’r gwaith hwn.

Cefndir

Mae Cynefin: Cymru ddiwylliannol ac ethnig amrywiol yn tynnu ar gryfderau’r Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol sydd wedi helpu ysgolion i archwilio syniadau a dulliau newydd o addysgu a dysgu dros yr 8 mlynedd diwethaf.

Wrth galon y cynllun mae cyd-adeiladu, cyd-gyflwyno, llais y disgybl ac i ganiatau penderfyniadau gan y disgyblion. Mae’n ddull sy’n seiliedig ar waith ymholiadol sy’n defnyddio ymyriadau celfyddydol ac addysgeg greadigol i archwilio themâu, materion a heriau ar draws pob maes dysgu.

Beth fydd y cynnig yn ei olygu

  • Bydd ysgolion yn gweithio ar y cyd a'u Arweinydd Creadigol dynodedig i gynllunio prosiect dysgu creadigol sy’n archwilio maesydd Cynefin: Cymru ddiwylliannol ac ethnig amrywiol
  • Bydd ysgolion llwyddiannus yn cael eu gwahodd i fynychu cwrs hyfforddi ar-lein undydd a ddarperir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, er mwyn sicrhau eu bod yn gwbl barod ar gyfer y prosiect. Dangosir y dyddiadau hyfforddi yn y llinell amser isod.
  • Bydd ysgolion yn gweithio ochr yn ochr â'u Arweinydd Creadigol dynodedig i gyflwyno'r prosiectau hyn i ddosbarth o ddysgwyr. Gall dosbarth o ddysgwyr fod yn garfan o ddysgwyr sydd wedi’u tynnu ynghyd o bob rhan o’r ysgol (ni ddylai fod mwy na 30 o ddisgyblion yn cymryd rhan)
  • Fel ysgol, byddwch yn penodi uwch arweinydd i oruchwylio'r gwaith o gyflawni'r prosiect yn strategol er mwyn ategu dulliau gwrth-hiliaeth ac er mwyn creu effaith ar lefel ysgol gyfan.
  • Fel ysgol, byddwch yn myfyrio drwy gydol y prosiect ac yn cynnal gwerthusiad terfynol. Bydd cyfleoedd hefyd i chi rannu eich canfyddiadau gydag athrawon a bobl greadigol eraill ledled Cymru

Cyllid a chefnogaeth 

Bydd pob ysgol yn derbyn 16 diwrnod o gefnogaeth gan Arweinydd Creadigol a gyflogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Yn ogystal â hyn, bydd pob ysgol yn derbyn grant o £2000 tuag at adnoddau i gefnogi'r prosiect.

Bydd yr athro dynodedig yn mynychu cwrs hyfforddi undydd ar-lein a ddarperir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a bydd yn cymryd rhan mewn cyfleoedd dysgu proffesiynol.

Cymhwysedd

Mae'r cynllun yn agored i bob ysgol gynradd ac uwchradd a gynhelir gan awdurdodau lleol ac a gynorthwyir yn wirfoddol, gan gynnwys ysgolion arbennig a chyfleusterau addysgu arbenigol.

Nid yw ysgolion sydd ar hyn o bryd yn Ysgol Greadigol Arweiniol a/neu sydd wedi cymryd rhan yn Cynefin yn flaenorol yn gymwys i wneud cais.

Sut i wneud cais

Sicrhewch eich bod wedi darllen y Cwestiynau Cyffredinnol cyn llenwi'r ffurflen gais.

Mae ffurflen gais ar gyfer Cynefin: Cymru ddiwylliannol ac ethnig amrywiol i’w gweld isod.

Dylai'r cais hwn gael ei gwblhau gan yr athro a fydd yn cael ei ddynodi i redeg y prosiect.

Mae ceisiadau’n cau am 12:00 (canol dydd), Dydd Mawrth, Tachwedd 14, 2023.

 

Amserlen

14 Tachwedd 2023

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau

Wythnos 15 Ionawr 2024

Hyfforddiant i Athrawon Arweiniol

Rhaid i ysgolion fynychu fel amod grant

Wythnos 22 Ionawr 2024

Gweithwyr Proffesiynol Creadigol wedi'u paru ag ysgolion

O 29 Ionawr 2024

Cynllunio prosiect

8 Mawrth

Dyddiad cau Ffurflen Gynllunio

Wythnos 11 & 18 Mawrth

Sgwrs cynllunio gydag Arweinydd y Prosiect

18 Mawrth – 6 Mehefin

Cyflwyno gweithgaredd prosiect

Wythnos 10 & 17 Mehefin

Digwyddiadau rhannu cenedlaethol

27 Mehefin

Dyddiad Cau Gwerthuso

 

Sut i ddarganfod mwy

Os hoffech wneud cais rydym yn awgrymu’n gryf eich bod yn mynychu un o’n sesiynau briffio ar-lein fel y nodir isod. Bydd hwn yn gyfle i ddarganfod mwy am y cynnig ac i ofyn unrhyw gwestiynau.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch ag un o'r tîm dysgu creadigol fel y nodir isod 

Daniel.trivedy@celf.cymru  

Ffôn: 07710026085 

Gwenfair.hughes@celf.cymru 

Ffôn: 01492539754 

Shaun.featherstone@celf.cymru 

Ffôn: 07710026080 

Cymorth
Cwestiynau mynych

Ddim o gwbwl. Mae creadigrwydd yn sgil hanfodol ar gyfer bywyd sy'n cyd-fynd â'r 4 Diben ac mae'n berthnasol i bob MDPh. Mae addysgeg Dysgu creadigol yn berthnasol ac yn ddefnyddiol wrth ddyfeisio profiadau arloesol, dilys a diddorol i bob dysgwr ac ymarferydd addysg.

Dylech benodi aelod profiadol o staff addysg y bydd ei ddosbarth (neu ddysgwyr) yn cymryd rhan. Dylai’r person hwnnw hefyd fod yn hawdd cysylltu ag ef/hi ac ar gael drwy gydol yr wythnos waith ysgol, bod yn hyblyg iawn, a bod yn frwd dros ysgogi newid mewn perthynas ag amrywio’r cwricwlwm.

Ni ddylid rhoi’r cyfle hwn i athro nad yw ei ddosbarth (neu ei ddysgwyr) yn cymryd rhan. Rydym hefyd yn rhybuddio rhag rhoi’r cyfle hwn i gydweithiwr addysgu sy’n newydd i’ch ysgol. Nid yw'r prosiect hwn yn addas ar gyfer Athrawon ANG.

Bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn paru pob ysgol ag Arweinydd Creadigol. Bydd y person hwn yn cydweithio'n agos â'r athro arweiniol dynodedig i ymchwilio, cyd-adeiladu a chyflwyno'r prosiect. Byddant yn eich helpu i ymchwilio a deall hanes a datblygiad Cymru fel cymdeithas ddiwylliannol ac ethnig amrywiol; ac archwilio profiadau a chyfraniadau pobl amrywiol yn ddiwylliannol ac ethnig yng Nghymru, ddoe a heddiw. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd y person hwn o gefndir diwylliannol ac ethnig amrywiol.

Mae'r Ymarferwyr Creadigol yn gweithio yn ogystal â'ch Arweinydd Creadigol i gefnogi cyflwyno'ch prosiect. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd y bobl hyn o gefndir diwylliannol ac ethnig amrywiol.

Bydd eich Arweinydd Creadigol yn eich helpu i ddod o hyd i Ymarferwyr Creadigol addas. Maent yn cael eu talu o’r grant Cynefin, sy’n £2000 i bob ysgol a bydd angen i chi sicrhau eu bod yn cael eu talu’n brydlon ac yn deg unwaith y byddant wedi cwblhau eu gwaith.

Ydym. Mae gennych yr opsiwn i ddefnyddio hyd at £300 o’r grant ysgol o £2000 tuag at hyn.

Oes, mae’n rhaid mynychu fel amod o dderbyn y grant. Eu diben yw sicrhau eich bod yn cael y gorau o’ch profiad a bod eich ysgol yn elwa’n llawn ar y cyfle hwn.

Peidiwch â gwneud cais os ydych am leoli'r prosiect hwn mewn mwy nag un dosbarth neu ar draws grŵp blwyddyn cyfan. Bydd hyn yn cael ei herio ar y cam cynllunio. Os yw hyn yn rhwystr i chi wneud cais (er enghraifft: os ydych yn ysgol fach iawn, yn ysgol uwchradd ac yn y blaen) rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cysylltu â ni am gyngor cyn cyflwyno'ch cais.

Na. Ni ddylai grant Cynefin ariannu syniad sy’n bodoli eisoes neu brosiect sydd eisoes wedi dechrau (neu wedi cael ei gynllunio). Dylai eich prosiect fod yn gwbl newydd ac esblygu’n organig. Bydd eich Arweinydd Creadigol yn gweithio gyda chi i archwilio syniadau a themâu sy’n ystyried ac yn cael eu llywio gan lais y disgybl a blaenoriaethau datblygu perthnasol eich ysgol.

Mae grant Cynefin yn cefnogi ysgolion i archwilio sut i greu amrywiaeth yn eu cwricwlwm trwy greadigrwydd ac addysgeg dysgu creadigol. Mae'n cyd-fynd â Y Cwricwlwm i Gymru – Y Cod Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig(adran 2.3.5).

Wrth gwrs. Bydd Arweinydd Prosiect yn cael ei neilltuo i chi o’r tîm Dysgu Creadigol yng Nghyngor Celfyddydau Cymru yn ogystal â’ch Arweinydd Creadigol eich hun. Bydd eich Arweinydd Prosiect hefyd yn gyfrifol am sicrhau ansawdd eich prosiect ac yn cymeradwyo eich cynllunio cychwynnol a'ch cyflwyniad cyllideb. Mae ein holl Arweinwyr Creadigol ar raglen Cynefin yn ymarferwyr creadigol profiadol a medrus.

Darllen mwy
Dechrau

Bydd angen i’r holl ysgolion sy’n bwriadu gwneud cais i ofalu eu bod wedi cofrestru ar ein porth ar-lein cyn llenwi unrhyw ffurflenni cais. Ar ôl i chi gofrestru ar y porth ar-lein byddwch yn gallu cael mynediad i'r ffurflen gais. Rydym yn argymell eich bod yn cofrestru'ch ysgol ar ein porth o leiaf 5 diwrnod gwaith cyn eich bod yn dymuno cychwyn eich cais. 
I gofrestru ar y porth, cliciwch yma i greu cyfrif. 

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod gwybodaeth ar gael mewn print bras, hawdd ei ddarllen, braille, sain a byddwn yn ymdrechu i ddarparu gwybodaeth mewn ieithoedd heblaw Cymraeg, Saesneg neu Iaith Arwyddion Prydain ar gais. 

Rydym yn gweithredu Polisi Recriwtio Cyfle Cyfartal ac yn croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymuned yn Gymraeg neu Saesneg.