Cefndir

Mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Ymddiriodolaeth Cwm Elan a Peak Cymru mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn falch o wahodd artistiaid sy’n byw yng Nghymru, ac yn enwedig pobl o gefndiroedd sy’n cael eu tangynrychioli, i wneud cais am Gymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol yn 2023.  

Mae Cymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol yn rhoi grant o £25,000 yr un i 8 o artistiaid unigol neu unigolion creadigol, gan eu galluogi i dreulio 16 mis yn ymchwilio’n greadigol ar y thema “cysylltiad â byd natur”. Mae’n gyfle i herio ein dealltwriaeth o’n perthynas â byd natur a sut i ailgysylltu â byd natur, ac i archwilio eich perthynas chi’ch hun â byd natur, yn ogystal â pherthynas y bobl a’r cymunedau o’ch cwmpas chi â hwnnw.  

Mae’r Gymrodoriaeth yn agored i artistiaid ac unigolion creadigol Cymru ym mhob disgyblaeth artistig.

Ynghyd â ymchwilio’n greadigol, bydd y Cymrodorion yn cymryd rhan mewn rhaglen ddatblygu wedi’i threfnu gan Peak Cymru, sy’n cyfuno deialogau, mentora a chefnogaeth curadurol, sgyrsiau adeiladol ynghylch syniadau, ymchwil a’r gwaith sy’n mynd rhagddo, a thri ymweliad preswyl wyneb-yn-wyneb dros dri diwrnod gydag ymarferwyr gwadd. Er bod y Gymrodoriaeth wedi’i chynllunio i fod yn hyblyg o amgylch ymrwymiadau eraill, bydd disgwyl i’r Cymrodyr flaenoriaethu’r rhaglen ddatblygu strwythuredig ac ymwneud â’r Cymrodyr eraill yn ystod cyfnod y Gymrodoriaeth. Yn ogystal â'r dyddiadau allweddol a ddarperir yn y ddogfen ganllawiau, gallwn gadarnhau y bydd y cyfnod preswyl cyntaf ar 8-10 Chwefror 2024 ar safle Stackpole yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Sir Benfro.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, yna sgroliwch i lawr y dudalen hon er mwyn cyrraedd yr adran 'cwestiynau mynych'.

Cymorth
Nodiadau cymorth gyda chyllid27.07.2023

Canllawiau Cymrodoriaeth Cymru'r Dyfodol 2023

Cwestiynau mynych

Rhaid i chi ddefnyddio ein porth ar-lein i ymgeisio. Os nad ydych chi wedi gwneud hynny’n barod, mae’n rhaid cofrestru’n gyntaf. Mae gwybodaeth am sut i wneud hynny yma

Os cewch chi drafferth yn agor y ffurflen ar-lein neu os bydd angen cymorth arnoch chi, cysylltwch â ni: grantiau@celf.cymru 

Wrth ymgeisio, bydd ein tîm Grantiau a Gwybodaeth yn gallu’ch rhoi ar ben ffordd os bydd gennych chi gwestiynau am y porth, am sut i gyflwyno cais, am gostau hygyrchedd ac am fod yn gymwys. 

Os bydd angen cymorth arnoch chi i ddatblygu eich syniadau ymchwil greadigol, bydd modd i Swyddog Datblygu eich helpu. Serch hynny, fyddwn ni ddim yn darllen drafftiau. Dylai eich syniadau ymchwil greadigol adlewyrchu eich dull o weithio a’ch profiad personol. 

Mae'r gymrodoriaeth yn agored i artistiaid ac unigolion creadigol sy'n gweithio ym mhob ffurf gelfyddydol. Hoffen ni gefnogi grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, fel pobl ddu, Asiaidd, fyddar, anabl neu ethnig leiafrifol. 

Gallwch. Rhaid bod gennych chi ddigon o amser i wneud y Gymrodoriaeth ochr yn ochr â’ch gwaith gyda’r grant cyfredol. Dylai artistiaid gynllunio i dreulio tua 60 diwrnod yn gweithio ar eu hymchwil greadigol a mynychu’r rhaglen ddatblygu, fel rhan o’r Gymrodoriaeth. Dylech chi esbonio yn eich cynnig sut byddwch chi’n rheoli eich amser, gan y byddwn ni’n edrych ar ba mor dda yw eich cynllun ar gyfer rheoli eich gwaith wrth i ni wneud penderfyniadau. 

Gallwch. Rhaid bod gennych chi ddigon o amser i wneud y Gymrodoriaeth ochr yn ochr â’ch gwaith gyda’r grant cyfredol. Dylai artistiaid gynllunio i dreulio tua 60 diwrnod yn gweithio ar eu hymchwil greadigol a mynychu’r rhaglen ddatblygu, fel rhan o’r Gymrodoriaeth. Dylech chi esbonio yn eich cynnig sut byddwch chi’n rheoli eich amser, gan y byddwn ni’n edrych ar ba mor dda yw eich cynllun ar gyfer rheoli eich gwaith wrth i ni wneud penderfyniadau. 

Er ein bod ni’n croesawu cydweithio, dim ond un lle y gallwn ni’i gynnig ar gyfer pob cais, felly byddai angen enwi un artist fel y prif artist i gael y ffi o £15,000. Byddai angen i bobl sy’n cydweithio â’r artist hwnnw gael eu talu o’r gyllideb gynhyrchu gwerth £10,000.  

Gallwch chi gydweithio ag artistiaid neu arbenigwyr, fel gwyddonwyr, er enghraifft. Mae modd i’r bobl y byddwch chi’n cydweithio â nhw fod wedi’u lleoli y tu allan i Gymru, neu’n gweithio yn rhyngwladol. Yn eich cynnig, enwch y bobl rydych chi’n bwriadu cydweithio â nhw, i ddangos pam eu bod nhw’n bwysig i’ch gwaith, a beth byddan nhw’n ei wneud. Nodwch unrhyw ffioedd neu ddeunyddiau cydweithio yn y gyllideb ar gyfer cynhyrchu a deunyddiau. 

Dydyn ni ddim yn disgwyl cynllun prosiect manwl. Rydyn ni eisiau gwybod sut byddwch chi a’ch ymchwil greadigol yn herio sut rydyn ni’n meddwl am bethau. Rydyn ni eisiau clywed am eich syniadau a’ch themâu, a sut rydych chi’n bwriadu bwrw ati i ddatblygu eich syniadau. Ac rydyn ni am wybod sut gallwch chi fanteisio i’r eithaf ar yr hyn mae’r gymrodoriaeth yn ei gynnig i chi nawr.  

Gallwch, fe allwch chi weithio gyda chymuned – er enghraifft, os yw eich gwaith yn ymwneud â chymdeithas. Os byddwch chi’n gweithio gyda phlant neu grwpiau sy'n agored i niwed, rhaid i chi ystyried pa gamau diogelu y byddwch chi’n eu cymryd. 

Gallwn ni dalu am rai costau gofal plant i’ch helpu i gymryd rhan yn nigwyddiadau a gweithgareddau’r prosiect. Yn enwedig os na allwch chi gymryd rhan heb gymorth neu os ydych chi’n cynllunio gweithgarwch fel rhan o’ch ymchwil greadigol sy’n cynnwys pobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rhaid i chi egluro pam mae angen y cymorth hwn yn eich cyllideb. Bydd y costau yn ychwanegol at gyfanswm y grant a dylid eu cynnwys fel costau hygyrchedd. 

Dylai artistiaid gynllunio i dreulio tua 60 diwrnod yn gweithio ar eu ymchwil a mynychu’r rhaglen ddatblygu. Bydd taliad o £15,000 am hyn. Rydyn ni wedi cyfrifo bod y swm yn briodol i artist sydd ag o leiaf 5 mlynedd o brofiad, ac mae’n seiliedig ar gyfraddau diwrnod llawrydd cyfartalog. 

Dylech gynnwys disgrifiad o sut rydych chi’n bwriadu defnyddio'r grant o £25,000. 

Bydd angen i chi ddangos sut byddwch chi’n defnyddio'r £10,000 sydd yn y grant ar gyfer costau cynhyrchu. Gallai hyn gynnwys costau deunyddiau, costau gweithgareddau a chostau datblygu. 

Dylech ddangos sut byddwch chi’n defnyddio'r £15,000 sydd yn y grant sy'n talu am eich amser. 

Gallwch gyflwyno hyn ar ffurf tabl syml: 

Disgrifiad o'r costau 

Cost mewn £ 

e.e. Ffi’r mentor - enw'r unigolyn 

£ 

Deunyddiau – pren a phapur 

£ 

Talu am fy amser: 60 diwrnod = 2 ddiwrnod yr wythnos am 30 wythnos 

£ 

Cyfanswm y costau 

£ 

Mae costau hygyrchedd a chostau gofal plant yn ychwanegol at y grant. Disgrifiwch y rhain yn eich cais. 

Na fydd, gan nad oes disgwyl i’r Cymrodyr greu corff terfynol o waith yn ystod cyfnod y Gymrodoriaeth. Bydd y Cymrodyr yn cael cymorth i ystyried cyfeiriad eu gwaith y tu hwnt i gyfnod y Gymrodoriaeth. Serch hynny, bydd disgwyl i’r Cymrodyr rannu eu hymarfer a’u proses fel rhan o sgyrsiau traws-sector ehangach a fydd yn trin a thrafod ein perthynas â byd natur trwy 1-2 digwyddiad cyhoeddus yn ystod cyfnod y Gymrodoriaeth. 

5pm ar 15 Medi 2023 yw’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau. 

Byddwch chi’n cael ateb erbyn 31 Hydref 2023. 

Bydd disgwyl i chi gymryd rhan yn y rhaglen ddatblygu strwythuredig sy’n rhan o’r rhaglen, gan roi blaenoriaeth iddi. Mae’n cynnwys:  

  • Tri ymweliad preswyl tri diwrnod gydag ymarferwyr gwadd (wyneb-yn-wyneb) 

  • Tri chyfarfod grŵp, o flaen pob ymweliad preswyl (ar-lein) 

  • Pum cyfarfod cefnogi un-i-un (ar-lein) 

  • Tri chyfarfod mentora curadurol (ar-lein) 

  • Cyfleoedd i ddysgu gan safleoedd dan reolaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Ymddiriedolaeth Cwm Elan, ac i ymateb i’r safleoedd hynny 

Dyddiadau wedi’u cadarnhau: 

  • Dydd  Mercher 6 neu Gwener 8 Rhagfyr 2023: cyfarfod cefnogi un-i-un (ar-lein)  

  • Dydd Mercher 24 Ionawr 2024: Cyfarfod grŵp, o flaen yr ymweliad preswyl cyntaf (ar-lein) 

  • Chwefror 2024: Ymweliad preswyl cyntaf (wyneb-yn-wyneb) 

  • Dydd Mercher 15 Mai 2024: Cyfarfod grŵp, o flaen yr ail ymweliad preswyl (ar-lein) 

  • Mehefin 2024: Ail ymweliad preswyl (wyneb-yn-wyneb) 

  • Dydd Mercher 18 Medi 2024: Cyfarfod grŵp, o flaen y trydydd ymweliad preswyl (ar-lein) 

  • Hydref 2024: Trydydd ymweliad preswyl (wyneb-yn-wyneb) 

  • Ionawr 2025: Cyfarfod grŵp, adfyfyrio/gwerthuso’r rhaglen (ar-lein) 

 

Ar hyn o bryd, does gennyn ni ond arian i gynnal y Gymrodoriaeth hon. Byddwn ni’n asesu effaith y Gymrodoriaeth fel rhan o'r Rhaglen Natur Greadigol i benderfynu beth i’w wneud yn y dyfodol. 

Bydd. Os hoffech chi ddarganfod mwy am ymuno â Chymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol, bydd Cyngor Celfyddydau Cymru’n cynnal 2 ddigwyddiad ar-lein.

10:00-11:00, 30 Awst 2023 gyda’r Gweithgor Hinsawdd a Diwylliant. Cliciwch yma i gofrestru:  https://forms.gle/6592o2bByrvyNhVa8

08:30-09:30, 6 Medi 2023 gyda What’s Next? Cymru https://eisteddfod.zoom.us/j/83413535015#success

Y thema yw cysylltiad pobl â byd natur. Bydd angen i’ch cais roi sylw i’r thema hon er mwyn iddo gael ei ystyried.

Dydd Gwener 15 Medi, 5pm.

Rydyn ni’n eich cynghori’n gryf i ymgyfarwyddo â sut mae gwneud cais ar y porth ymhell cyn y dyddiad cau, gan gyflwyno’r cais cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau technegol ar y funud olaf. Ni fydd ceisiadau sy’n cael eu cyflwyno’n hwyr ar y porth yn cael eu derbyn.

Ar 15 Medi, bydd ein llinellau ffôn yn cau am 4.30pm.

Oes, mae modd cynnwys costau cymorth hygyrchedd yn eich cyllideb, yn ychwanegol at y grant o £25,000. Gallai’r rhain fod ar gyfer pethau fel:

• Costau cyfieithwyr ar y pryd

• Gweithwyr cymorth

Oes, mae modd i chi wneud cais. Os byddwch chi’n llwyddiannus, byddwn ni’n gweithio gyda chi er mwyn deall eich anghenion hygyrchedd ar gyfer y gweithgareddau hyn, a pha addasiadau rhesymol y byddai angen i ni’u gwneud er mwyn sicrhau y gallwch chi gymryd rhan.

Darllen mwy
Dechrau

Yn cau 15 Medi 2023.