Cefndir

Yn sgil trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru am sefyllfa ariannol anodd ein sector celfyddydol, rydym wedi cael arian i ddiogelu swyddi a magu gwytnwch yn y sector. 

Rydym yn gwybod bod yr angen yn un brys. Felly mae'n bwysig inni allu rhoi’r arian lle mae ei angen fwyaf cyn gynted â phosibl.

Mae arwyddion cynnar yn awgrymu bod y galw yn debygol o fod yn llawer uwch na’r arian sydd ar gael. Felly rydym wedi datblygu proses ymgeisio sy’n canolbwyntio ar y rhai mwyaf anghenus.

Pwy sy'n gallu ymgeisio?

I ymgeisio, rhaid bodloni'r meini prawf canlynol am fod yn gymwys:

  • rhaid i’ch sefydliad fod â chyfansoddiad cyfreithiol nad yw'n gyfyngedig gan gyfranddaliadau ac sy'n gweithredu ar sail nid er elw, er enghraifft:
    • Cwmni Cyfyngedig drwy Warant
    • Elusen gofrestredig (gan gynnwys ymddiriedolaethau elusennol)
    • Sefydliad Corfforedig Elusennol
    • Cwmni Buddiannau Cymunedol 
    • Cymdeithas Anghorfforedig
    • Awdurdod Lleol, Prifysgol, Bwrdd Iechyd neu Gorff Cyhoeddus arall

Os nad yw math eich sefydliad ar y rhestr, cysylltwch â ni: cefnogibusnes@celf.cymru cyn ymgeisio. 

Dyma rai o’r sefydliadau na allant ymgeisio (ymhlith eraill):

  • Ysgolion
    • Adrannau o'r llywodraeth
    • Sefydliadau y tu allan i'r Deyrnas Unedig 
    • Sefydliadau nad ydynt yn gyfredol â gofynion adrodd o ran grantiau eraill gennym 

Ni allwn ariannu sefydliadau cyfyngedig drwy gyfranddaliadau na lle gellir dosbarthu unrhyw elw i aelodau/cyfranddalwyr.

Amserlen

Ceisiadau ar agor – 16 Hydref 2024

Dyddiad cau ymgeisio – hanner dydd ar 28 Hydref 2024

Gan ddibynnu ar nifer y ceisiadau, gobeithio rhoi gwybod ichi am ein penderfyniadau erbyn canol Rhagfyr.

Cymorth

Rhaid ichi siarad gyda ni cyntaf ynglŷn manylion eich prosiect i gael y ddolen i'r ffurflen gais.

Darllenwch y canllawiau i benderfynu os ydy eich prosiect yn iawn i’r gronfa yma.

Os ydy, cysylltwch gyda ni ar cymorthbusnes@celf.cymru gydag amlinelliad byr o'ch prosiect, gan gadarnhau’r swm rydych am ymgeisio am.

Dogfen15.10.2024

Canllawiau ac Ymgeisio: Arian i sefydliadau gefnogi amddiffyn swyddi a magu gwytnwch