Yr Adolygiad Buddsoddi yw'r cam cyntaf yn ein strategaeth newydd 10 mlynedd a fydd ar waith o fis Ebrill 2023 ymlaen.

Bydd ein cynllun strategol newydd yn adeiladu ar lawer o'r hyn a ddysgwyd o'n hymgynghoriad am yr Adolygiad Buddsoddi a bydd y chwe egwyddor yn ganolog iddo.

Ac er bod yr Adolygiad Buddsoddi yn hollbwysig i'r ffordd yr ydym yn cefnogi'r celfyddydau, nid dyma'r unig ffordd. Mae yna feysydd allweddol eraill – gan gynnwys y celfyddydau ac iechyd, addysg a phobl ifanc, gwaith rhyngwladol a chefnogaeth i artistiaid unigol a gweithwyr llawrydd creadigol – a fydd yn gymwys yng ngwaith sefydliadau a ariennir. Bydd buddsoddiadau ychwanegol i’r meysydd pwysig hyn drwy raglenni penodedig ychwanegol a nodir yn ein cynllun strategol.

Canlyniad allweddol ar draws ein holl waith a’n holl fuddsoddiad – gan gynnwys yr Adolygiad Buddsoddi – fydd y celfyddydau yn cael effaith gadarnhaol ar les pobl yng Nghymru.