Mae Tŷ Cerdd – Adran Cymru swyddogol International Society for Contemporary Music (ISCM) – yn gwahodd cyfansoddwyr Cymreig/sy’n byw yng Nghymru i gyflwyno eu sgorau i Ddiwrnodau Cerddoriaeth Newydd y Byd (DCNB) Portiwgal (Lisbon/Porto) 2025.

Thema’r WNMD eleni yw “Thirst for Change” a bydd y rheithgor yn arbennig o blaid gweithiau sy’n adlewyrchu neu’n cyfrannu at bwnc yr ŵyl.

         
Sioe arddangos ryngwladol flynyddol ar gyfer cerddoriaeth newydd yw Gŵyl Diwrnodau Cerddoriaeth Newydd y Byd ISCM – yn cynrychioli gwaith cyfoes o bedwar ban byd ac eleni fe’i cynhelir ym mis Mai ac Mehefin (2025).

Ceir 14 categori y gwahoddir cyflwyniadau ar eu cyfer i’w cyflwyno yn yr Ŵyl. Gallwch gyflwyno gweithiau drwy anfon fersiwn PDF o’r sgôr ynghyd â recordiad sain neu fideo o’r gwaith (os yw ar gael), neu ddogfennaeth sain/fideo os nad oes gan y gwaith sgôr ysgrifenedig.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ydy 10:00, Dydd Gwener 5 Ebrill 2024

 

Dyddiad cau: 05/04/2024