Yn galw ar bob perfformiwr ifanc...  

Mae ceisiadau am aelodaeth Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ar gyfer 2024 bellach yn fyw!  

Bydd ThCIC yn cynnig preswyliadau perfformiad a hyfforddiant ochr yn ochr â gweithdai, dosbarthiadau meistr a gweithdai ar-lein.  Mae'r rhaglen eleni yn cynnwys aelodaeth i'n rhaglen Llwybrau Proffesiynol, mewn partneriaeth â Theatr Clwyd a bydd rhai ymgeiswyr llwyddiannus yn ffurfio cast ein cynhyrchiad theatr haf dwyieithog newydd sbon mewn partneriaeth â Theatr Genedlaethol Cymru a Fio. Gan weithio gyda'r ddau gwmni deinamig hyn o dan gyfarwyddyd artistig Dr Sita Thomas a Steffan Donnelly byddwn yn comisiynu ysgrifennu newydd yn Gymraeg a Saesneg yn benodol ar gyfer aelodau ein hensemble cast. Bydd y cast yn ymarfer gyda thîm creadigol a chynhyrchu cwbl broffesiynol yn ystod ein preswyliad ym mis Awst gyda pherfformiadau cyhoeddus yng Ngogledd a De Cymru ddechrau mis Medi.   

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Mawrth 27 Chwefror, gyda chlyweliadau wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal, ledled Cymru ym mis Mawrth. 

Gellir dod o hyd i'r holl fanylion am y clyweliadau, ac unrhyw ofynion a chanllawiau ar ein gwefan.

Dyddiad cau: 27/02/2024