Yn ymateb i gyhoeddi cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, a welodd yr arian i’r Cyngor yn cynyddu gan 1.5% mewn arian refeniw ar gyfer 2022/23, ac aros yr un fath o ran cyfalaf, dywedodd Rebecca Nelson, Swyddog Cyfrifyddu a Chyfarwyddwr Cyllid y Cyngor:
"Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad. Mae'n ailddatgan pwysigrwydd y celfyddydau i gefnogi lles pobl Cymru.
"Drwy gydol y pandemig mae artistiaid a sefydliadau celfyddydol wedi dangos dychymyg a gwytnwch. Maent wedi parhau i roi cyfleoedd i bobl fwynhau a chael eu hysbrydoli a’u cysuro dros y 21 mis diwethaf.
"Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn caniatáu i hyn barhau. Bydd yn diogelu swyddi ar draws y celfyddydau a'r diwydiannau creadigol. Rydym ni’n cyfarfod y mis nesaf i gadarnhau ein cynlluniau gwariant ar gyfer 2022/23."
Diwedd 21 Rhagfyr 2021
Gellir gweld manylion y gyllideb drwy glicio yma (dolen i wefan Llywodraeth Cymru)