Ydych chi'n ymarferydd creadigol sydd a diddordeb mewn sut y gallai ddefnyddio tecstilau ddyfnhau dealltwriaeth o rifedd a siâp ymhlith dysgwyr CC2, wrth blethu cyfleoedd ar gyfer cydweithio creadigol, crefftio a gwella?

Os ydych, yna mae Ffederasiwn o dair ysgol yng Nhgwm Gwendraeth ym chwilio am 2- 3 Ymarferydd Creadigol Cymraeg eu hiaith i weithio ar ymholiad yn ystod Haf 2025 a fydd yn archwilio'r berthynas ddeinamig rhwng mathemateg, ffurfiau mathemategol, patrwm, a thecstilau.  Yn ogystal ag ymarferwyr o'r byd tecstilau, celf, neu ffasiwn, mae'r Ffederasiwn yn awyddus i glywed oddi wrth fathemategwyr neu beirianwyr creadigol! 

Dyddiadau Allweddol a Gwybodaeth: 

  • Dyddiad cau ceisiadau: Ebrill 3, 12pm
  • Cynhelir cyfweliadau rhwng Ebrill 7fed ac 8fed.
  • Cyflawni'r prosiect: Mai – Gorffennaf 2025
  • Y gyfradd yw £300 y dydd fesul ymarferwr. 

Am fwy o wybodaeth am y swyddi ac am y broses ymgeisio, gweler y ddolen isod. 
 

Dyddiad cau: 03/04/2025