Yn ystod y gweithdy arbrofol hwn byddwn yn archwilio sgoriau perfformiad, gan chwarae gydag ystumiau corfforol mewn tirwedd ddigidol. Bydd yr artist Vivian Ross-Smith yn trafod sut y mae hi'n cyfuno gwagleoedd digidol a chorfforol trwy berfformiad a chyda'n gilydd byddwn yn ail-greu sgoriau ac yn ysgrifennu rhai ein hunain i ddod o hyd i ffyrdd i gysylltu ein blychau Zoom unigol â chymuned ddigidol.
Cyfres o gyfarwyddiadau yw sgôr perfformiad sy'n amlinellu symudiad unigol neu gyfres o symudiadau sy'n cynhyrchu perfformiad neu ystum.
Mae Vivian yn ystyried sut y gall y rhyngrwyd weithredu fel man cyfarfod hanfodol ar gyfer pobl a syniadau ac yn caniatáu i'r syniadau o leoliad 'canolog' gael ei ailddiffinio. Mae'r gweithdy hwn yn dathlu parodrwydd dieithriaid i ffurfio cymuned a chefnogi creadigrwydd ei gilydd o bellter.
120 mins
Oed: 16+