Cafodd y Gronfa ei Lawnsio yn 2014 ac ers hynny mae wedi buddsoddi £170,000 yn rhoi cymorth i dros 170 o artistiaid newydd Cymreig o bob cwr o'r wlad.  

Nod y Gronfa yw helpu cymysgedd amrywiol o gerddorion i ddatblygu eu gwaith creadigol, fel amser yn y stiwdio, cyfarpar, ffotograffiaeth, gwaith celf a fideos. Mae profiad yr artistiaid sydd wedi elwa o'r Gronfa Lawnsio yn amrywio, megis: Adwaith o Gaerfyrddin – enillodd eu halbwm y Wobr Gerddoriaeth Gymreig y llynedd; Gwilym Bowen Rhys, sydd wedi cael ei enwebu am wobr werin Radio 2; Ennio the Little Brother, artist hip-hop o Sir y Fflint a ddefnyddiodd yr arian tuag at daith o gwmpas y Deyrnas Unedig; Accü, cantores-cyfansoddwr ac artist gweledol Iseldiraidd-Cymreig; a Bandicoot o Abertawe, a recordiodd eu senglau cyntaf yn yr iaith Gymraeg. 

Y llynedd cafodd Jack Perrett, canwr-cyfansoddwr o Gasnewydd, gymorth gan y Gronfa Lawnsio. Dywedodd:

"Gwneud cais am arian y Gronfa Lawnsio oedd un o'r pethau pwysicaf 'nes i yn 2019. Fe wnaeth Lawnsio helpu fi i recordio a rhyddhau sengl a gafodd ei chwarae ar BBC Radio 1, Radio X a BBC Radio Wales. Os ydych chi'n gerddor yng Nghymru sy'n cymryd eich gyrfa gerddorol o ddifrif, byddwn bendant yn eich cynghori i wneud cais."

Roedd y cyllid hefyd yn help i'r artist R&B Aleighcia Scott gynhyrchu fideo cerddoriaeth swyddogol ac ymgyrch farchnata ddigidol:

"Roedd cael arian y Gronfa Lawnsio'n faich oddi ar fy meddwl. Roedd yn golygu fy mod yn gallu datblygu fy nghrefft heb boeni am ddod o hyd i arian, sef un o'r pethau anoddaf am fod yn gerddor sy'n ariannu ei hun – diolch!"

Dywedodd Antwn Owen-Hicks, Rheolwr Portffolio yng Nghyngor Celfyddydau Cymru:

"Mae'r grantiau hyn yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn i artistiaid newydd – chwistrelliad o arian i helpu gyda chostau fel recordio neu hyrwyddo deunydd newydd. Mae'n bwysig rhoi cymorth i dalent greadigol newydd ac un o brif nodau'r Gronfa Lawnsio yw annog artistiaid newydd o bob cwr o Gymru, gan archwilio pob math o gerddoriaeth gyfoes. Ry'n ni'n arbennig o awyddus i roi cymorth i artistiaid o gefndiroedd amrywiol ac i gerddorion anabl. Mae'r artistiaid hyn yn cael eu tangynrychioli yn y sector yng Nghymru ac mae'n bwysig eu bod yn cael cymorth drwy gyllid y Gronfa Lawnsio." 

Yn ôl Bethan Elfyn, DJ, sylfaenydd a Rheolwr Prosiect Gorwelion:

"Mae'r Gronfa Lawnsio'n elfen allweddol o waith Gorwelion. Mae'n ein cyflwyno i gyfoeth o artistiaid fel DJs ystafell wely, MCs, cynhyrchwyr, a chanwyr-cyfansoddwyr sydd heb fynd yn bellach na'u sin gigio leol o bosib. Ar ochr arall y raddfa mae'n helpu artistiaid mwy profiadol o Gymru i hyrwyddo albymau newydd ac mae Buzzard Buzzard Buzzard, HMS Morris, Adwaith, Silent Forum, I See Rivers a No Good Boyo i gyd wedi elwa ar hwb hyrwyddo ychwanegol drwy grantiau'r Gronfa Lawnsio. Mae'n bleser bod yn rhan allweddol o fyd cerddoriaeth Cymru ar hyn o bryd."

Bydd ceisiadau ar agor o ddydd Llun Ionawr 20 ymlaen i artistiaid a bandiau o Gymru sy’n ysgrifennu, yn cynhyrchu ac yn perfformio cerddoriaeth boblogaidd, gyfoes a gwreiddiol. Bydd ceisiadau 2020 yn cau am hanner nos ddydd Sul, Chwefror 9. 

I gael mwy o wybodaeth am y Gronfa Lawnsio a sut mae gwneud cais, ac am fenter Gorwelion, ewch i bbc.co.uk/horizons