Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg
Teitl y Rôl: Technegydd Llwyfan Achlysurol
Cyflog: £12 yr Awr
Dyddiad Cau: 29/05/2024
Dyddiad Cyfweld: WD 03/06/2024
Mae CMC yn gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd a chomedi i ddawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio yn niwylliant Cymru. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.
Amdanom ni/Ein Hadran:
Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn gartref i amrywiaeth eang o gynyrchiadau teithiol o’r radd flaenaf, o sioeau cerdd, dawns, ac opera i gomedi, yn ogystal â’n cynyrchiadau mewnol ein hunain, cynyrchiadau rhyngwladol, digwyddiadau a chynadleddau. Byddwch yn rhan annatod o'r tîm sy’n gyfrifol am sicrhau bod y cynyrchiadau hyn yn cael eu rhoi ar waith.
Mae'r rôl hon yn cynnwys rolau Criw Llwyfan, Technegydd, a Gwisgoedd neu o bosibl cyfuniad o'r rhain.
Fel un o'r technegwyr achlysurol, eich prif rôl fydd gwasanaethu'r cynyrchiadau ym mhob un o'r mannau perfformio o fewn y Ganolfan, gan weithio ar ddigwyddiadau wedi'u lleoli o gwmpas yr adeilad yn ogystal â thu allan i adeilad y Ganolfan. Mae'n bosibl y gall hyn gynnwys cymryd rhan mewn teithiau achlysurol.
Gofynion Allweddol:
·Agwedd gadarnhaol ac adeiladol gydag ymagwedd gyfeillgar a hyblyg at gleientiaid a chwmnïau sy'n ymweld·Sgiliau rhyngbersonol da a’r gallu i weithio mewn tîm a gydag adrannau eraill o fewn y Ganolfan er mwyn sicrhau llwyddiant pob cynhyrchiad a digwyddiad·Brofiad o weithio mewn theatr dechnegol·Brofiad o adeiladu setiau·Brofiad ymarferol o rigio goleuadau a sain·Y gallu i weithio oriau anghymdeithasol, gan gynnwys dros nos, penwythnosau a Gwyliau Banc·Y gallu i gydymffurfio â pholisïau Iechyd a Diogelwch sy'n gysylltiedig â gweithio tu ôl y llwyfan, gan gynnwys gweithio ar uchder, trin â llaw a gweithio gyda thrydan, yn ogystal â gwisgo'r cyfarpar diogelu personol priodol lle bo angen·Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol.
Beth Sydd Ynddo i Chi?
- Cyflogwr cyflog byw go iawn
- Hawl i Bensiwn Now
- Oriau gwaith hyblyg – dewiswch y shifftiau/oriau sy'n gweddu i’ch bywyd personol a'ch ymrwymiadau
- Mynediad i Linell Gymorth y Theatr, sy’n cynnwys cymorth ar gyfer: lles ac iechyd meddwl, anafiadau, dyled, materion ariannol ac ati
- Mynediad am ddim i ddysgu Cymraeg ar-lein
- Cynghreiriaid a chefnogaeth iechyd meddwl
- Gostyngiad o 20% ym mwytai a chaffis Canolfan Mileniwm Cymru
- Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio.
Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn mynd y tu hwnt i eiriau; mae’n agwedd sylfaenol sy’n llywio ein gweithredoedd. Gan gadw at yr egwyddorion a amlinellir yn Adran 158 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn mynd ati’n frwd i gymryd camau positif yn ein prosesau recriwtio a dethol. Gan gydnabod y diffyg cynrychiolaeth o grwpiau penodol o fewn ein gweithlu, yn enwedig unigolion ag anableddau a’r rheini o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol, rydym wedi rhoi mesurau rhagweithiol ar waith i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn.
Trwy ein hymagwedd gweithredu positif, bydd ymgeiswyr ar gyfer y rolau a hysbysebir gennym, sydd o'r grwpiau hynny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol a nodir yn y proffil rôl, yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad. Mae ein hymrwymiad yn ymestyn y tu hwnt i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol. Ein nod yw meithrin gweithle sy'n wir croesawu amrywiaeth gyfoethog ein cymdeithas hollgynhwysol.