Graddfa Cyflog: 4 £24,790 - £25,992

Pwrpas y Swydd:

Darparu gweinyddiaeth a chefnogaeth effeithiol ar gyfer gweithrediadau Canolfan Grefft Rhuthun, gan helpu i sicrhau bod y Ganolfan yn rhedeg yn esmwyth, yn unol â pholisïau, nodau a blaenoriaethau'r Ganolfan, gan gyfathrebu â staff eraill y Ganolfan a'u cefnogi, yn ôl yr angen.

Cydlynu a chynnal systemau a chofnodion cywir a chyfredol o
drafodion a gohebiaeth, fel eu bod yn hygyrch i'w defnyddio gan Reolwyr y Ganolfan.

Bod yn gyswllt cychwynnol ar gyfer ymholiadau a gohebiaeth allanol, a chydlynu gwybodaeth, gohebiaeth a thrafodion sy'n ymwneud â gweithrediadau'r Ganolfan.

Am yr Canolfan Grefftau Ruthun:

Mae Canolfan Grefft Rhuthun wedi'i thrawsnewid yn sylweddol, gan wella ei harddangosfeydd, ei rhaglenni addysgol, a'i chyfleusterau cyhoeddus, gan gynnwys orielau, gofod addysg,
stiwdios artistiaid, bloc ymwelwyr, ac ardal adwerthu. Wedi’i chydnabod fel prif ganolfan celfyddydau cymhwysol Cymru, mae’n cynnig rhaglen o’r radd flaenaf o arddangosfeydd Celf
Gymhwysol, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Amgueddfa Cymru a’r Cyngor Crefftau. Mae’r Ganolfan hefyd yn cyfrannu at faes y Celfyddydau Cymhwysol drwy addysg,
cynadleddau, cyhoeddiadau, digwyddiadau cenedlaethol a phrosiectau a gefnogir gan Lywodraeth Cymru fel CELF – prosiect oriel gelf gyfoes genedlaethol Cymru. Mae gofod manwerthu o safon yn cynnwys gwaith gan artistiaid a dylunwyr dethol, sydd ar gael i'r cyhoedd eu prynu.
 

Dyddiad cau: 15/08/2025