Llawn amser, 37 awr yr wythnos – croesewir ceisiadau rhannu swydd

Cyfnod penodol, 12 mis

Gradd C: Cyflog cychwynnol o £31,348 (cyfwerth ag amser llawn)

Lleoliad: Gellir gweithio o unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru yng Nghaerdydd, Bae Colwyn neu Caerfyrddin.

Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru (CRhC), sef Asiantaeth Ryngwladol Cyngor Celfyddydau Cymru, yn recriwtio i’r rôl ddeinamig Swyddog Cynnwys a Chyfathrebu Digidol Rhyngwladol. YN gyfrofol am greu rhaglen o gynnwys digidol atyniadol, bydd y rôl ryngwladol bwrpasol yma yn meithrin dealltwriaeth gadarnhaol am gelfyddydau a diwylliant Cymru i gynulleidfaoedd rhyngwladol a chenedlaethol. Gan weithio yn agos gyda thîm Cyfathrebu Cyngor y Celfyddydau, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyd-weithio yn agos gyda rhimau cyfathreby Llywodreaeth Cymru, British Council a Gwybodfan Gelf y DU ar draws gweledydd y DU.

Mae y rôl  yn cynnwys cefnogi comisiynu a chynghyrchu cynnwys ar gyfer nifer o allbynnau digidol gan gynnwys ein gwefannau, cyfrif Twitter, Facebook ac Instagram. Bydd hyn mewn amrywiaeth o ardaloedd daearyddol a ieithoedd er mwyn sicrhau ein bod ni’n cyfathrebu ag amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd yn ein gwledydd blaenoriaeth yn ogystal â’r DU.

Fel corff cyhoeddus mae’r Cyngor Celfyddydau’n ymdrechu i reoli ei fusnes i’r safonau uchaf o ran effeithiolrwydd ac atebolrwydd; bydd y Swyddog Cyfathrebu Digidol Rhyngwladol yn ein helpu ni i gyflawni’r nod.

Bydd gan yr ymgeisydd/wyr llwyddiannus radd berthnasol a/neu brofiad proffesiynol blaenorol o swydd berthnasol ym maes cynnwys digidol, yn ogystal a gwybodaeth gadarn am y cyfryngau digidol yng Nghymru, Prydain ac yn rhyngwladol, ynghyd a phrofiad o gyfathrebu ar lefel rhyngwladol.

Gweithiwn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ac mae rhuglder yn y Gymraeg (ar lafar ac yn ysgrifenedig) yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Fodd bynnag, mae CRhC yn mabwysiadu dull hyblyg o recriwtio i’r rôl hon a bydd yn ystyried ceisiadau gan ddysgwyr Gymraeg sy’n dymuno cyflawni’r rôl hon ar sail rhannu swydd gyda rhywun sy’n rhugl yn y Gymraeg. Felly, byddwn hefyd yn derbyn ceisiadau gan y rhai sy’n rhugl yn y Gymraeg sy’n dymuno gweithio’n rhan amser fel rhan o rannu swydd. Gwnewch eich dewis yn glir wrth gyflwyno’ch cais, os gwelwch yn dda.

Mae ein buddion yn cynnwys oriau/patrwm gwaith hyblyg, gwyliau hael a chynllun pensiwn. Am ragor o fanylion a ffurflen gais ewch i https://arts.wales/cy/newyddion-swyddi-chyfleoedd  

Dyddiad cau:                         12:00 (canol dydd) Dydd Mawrth 16 Mai 2023

Cyfweliadau (yn berson):    Dydd Mercher 24 Mai 2023

Dyddiad cychwyn: Cyn gynted â phosibl.

Noder, ni fydd CV yn cael eu derbyn.

Gweithredwn Bolisi Cyfle Cyfartal ar recriwtio a chroesawn geisiadau gan bob adran o’r gymuned yn y Gymraeg neu Saesneg. Ond, mae unigolion yn amrywiol yn ethnig ac yn ddiwylliannol, anabl, a thrawsryweddol wedi’u tangynrychioli yng ngweithlu’r Cyngor Celfyddydau ac o’r herwydd byddem yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr o’r grwpiau hyn sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Bydd mentora neu hyfforddiant yn cael ei ddarparu i berson penodedig yn ystod y cyfnod sefydlu, os bydd angen.

Dogfen25.04.2023

Pecyn Swydd Swyddog Cyfathrebu a Chynnwys Digidol Rhyngwladol