Pwrpas y swydd

• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.

• I lywio rhaglen arddangosfeydd y celfyddydau gweledol a chodi ymwybyddiaeth o’r celfyddydau gweledol o fewn y sir.

Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer

• Cyfrifoldeb am gytundebau gydag artistiaid a thâl comisiwn

• Cyfrifol am raglen waith y swyddog arddangosfeydd rhan amser

• Rheolwr llinell: Swyddog Arddangosfeydd

Prif ddyletswyddau

• Datblygu gwasanaeth celfyddydau gweledol yn unol a strategaeth y celfyddydau cain.

• Trefnu rhaglen orielau celf a chymunedol Storiel mewn cydweithrediad gyda Rheolwr Amgueddfeydd a’r Celfyddydau a’r Swyddog Arddangosfeydd

• Trefnu rhaglen arddangosfeydd celf gyda’r Llyfrgellydd Bro yn oriel canolfan Maenofferen, Llyfrgell Blaenau Ffestiniog

• Trefnu cytundebau gydag artistiaid a threfnu tâl comisiwn iddynt.

• Trefnu gweithdai celf lle bo angen, digwyddiadau ac ymweliadau addysgol yng nghyswllt arddangosfeydd a bod yn barod i siarad gyda grwpiau o'r cyhoedd a grwpiau ysgol.

• Cysylltu a chrefftwyr ag artistiaid a chreu banc o wybodaeth am gynhyrchwyr Gwynedd.

• Marchnata a chreu ymwybyddiaeth o'r gwasanaeth celfyddydau gweledol a ddarparir gan y Gwasanaeth.

• Cynorthwyo'r Rheolwr Amgueddfeydd a’r Celfyddydau gyda cheisiadau grant.

• Cefnogaeth sylfaenol i arddangosfeydd orielau hanesyddol yn yr amgueddfeydd yn ddibynnol ar argaeledd ac amserlen rhaglen orielau

• Sicrhau cydymffurfiaeth gyda rheolau lechyd a Diogelwch o fewn orielau'r Gwasanaeth.

• Cynrychioli lle bo angen y Gwasanaeth mewn cyfarfodydd yn ymwneud â'r celfyddydau gweledol.

• Dyletswyddau eraill cyfatebol yn ol y Rheolwr Amgueddfeydd a’r Celfyddydau

• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad

• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor.  Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data

• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.

• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin

 

Dyddiad cau: 11/01/2024