Mae’r Scratch Groundwork yn dychwelyd i Dŷ Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru y Gwanwyn yma.
Dydd Sadwrn Ebrill 12fed
Mae Groundwork a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru am gefnogi tri artist i rannu ei gwaith symud cyfnod cynnar o flaen cynulleidfa fyw, am y tro cyntaf.
Bydd y cyfle yma yn agored i unrhyw un sydd yn creu neu ymchwilio syniad hollol newydd.
Byddwch yn datblygu’r syniad efo cefnogaeth eraill, trwy ein rhaglen Seeds neu ar liwt eich hunan a fe fyddwn ni’n darparu adnoddau a platfform i chi rannu’r syniad.
Bydd artistiaid yn cael:
- £300 o ffi perfformio
- Ffilm amrwd a lluniau llonydd proffesiynol o’ch gwaith
- Cefnogaeth technegol sylfaenol ar y diwrnod
- Adborth/trafodaeth cynulleidfa wedi'i fframio/hwyluso. Dewch i gael atebion i’r cwestiynau sydd gennych am eich gwaith, wedi ei gefnogi a’i gynnal gan y Tîm Groundwork
Os hoffech chi sgwrsio ag un o'r tîm am y cyfle hwn anfonwch e-bost atom: groundworkprocardiff@gmail.com
Os ydych yn barod i wneud cais, cliciwch ar y botwm isod i lenwi ein ffurflen Google.
Dyddiad cau: 15/12/2024