Mae Groundwork Collective yn cynnal digwyddiad Scratch gyda chymorth gan Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.
Pryd: Dydd Sadwrn 13 Ebrill, 3-5pm
Gofod i chi ddod a’ch syniadau creadigol a chael adborth gan gyfoedion creadigol, cynulleidfa’r dyfodol, ffrindiau a theulu a chynhyrchwyr ayyb.
Rydym yn gwahodd artistiaid i rannu syniadau yn y camau cynnar sydd falle heb gael amser i ffurfio’n llawn, ond fydd yn cael budd o rannu a chynulleidfa i gael adborth a rannu ag artistiaid eraill.
Bydd artistiaid yn derbyn:
- Bwrsari o £300 i gefnogi datblygiad y gwaith
- Cyllid o £100 ar gyfer mentora
- Adborth o’r gynulleidfa
- Ffilm grai o’ch syniad
- Blaenoriaeth i fynediad Groundspace (gofod stiwdio) i ymarfer a archwilio
- Tri lle neilltuedig ar gyfer gwesteion.
Ewch i'n gwefan i gael yr alwad lawn a'r ffurflen gais: www.groundworkcollective.net/scratchnights
Dyddiad cau i wneud cais: 26 Chwefror am 5pm
Dyddiad cau: 26/02/2024