Mae NoFit State yn chwilio am Reolwr Derbynfa a Chyfleusterau croesawgar a chynnes i ymuno â ni yn ein cartref gwych yng Nghaerdydd.

Rheolwr y Dderbynfa a'r Cyfleusterau yw'r pwynt cyswllt cyntaf ac mae'n chwarae rhan hanfodol yn sicrhau bod ein hadeilad cymunedol yn gweithredu'n llyfn ac yn effeithlon. Mae'n cynrychioli NoFit State mewn meysydd ehangach. 

Mae'r arweinydd rhagweithiol, sydd â sgiliau trefnu a sgiliau rhyngbersonol rhagorol,

  • yn gallu rheoli nifer o flaenoriaethau ar yr un pryd, gan feithrin diwylliant cadarnhaol yn y gweithle.
  • yn gyfrifol am redeg rhaglen brysur ein hadeilad a'n dosbarthiadau o ddydd i ddydd, goruchwylio’r dderbynfa a’r adeilad, rheoli tîm gweinyddol bychan, a chynnal y cyfleusterau er mwyn darparu amgylchedd diogel, croesawgar a chynhyrchiol ar gyfer ein staff a’n hymwelwyr. 
  • yn cymryd rhan weithredol yn ein Tîm Cymunedol, gan wybod beth sy'n digwydd yn ein prosiectau cyfredol a chyfrannu at eu gwaith a'u canlyniadau.
  • yn gweld potensial gwahanol rannau'r adeilad, gan ddefnyddio'n hadnoddau mewn ffordd glyfar i ddiwallu anghenion amrywiol ein cymuned.

Ymunwch â ni!

Darllenwch y Disgrifiad Swydd i ganfod manylion pellach am y rôl. Gofynnir i chi lenwi’r ffurflen gais a’r ffurflen fonitro cyfle cyfartal.  Anfonwch eich ceisiadau at jobs@nofitstate.org

Os teimlwch y gallech wneud y swydd hon ond nad ydych yn ticio pob bocs ym manyleb y person, neu os credwch y byddai arnoch angen tipyn o hyfforddiant neu gefnogaeth ychwanegol er mwyn llwyddo’n llwyr, byddem dal wrth ein bodd yn clywed wrthych.

Oriau Gwaith:  Swydd lawn amser

Cyflog: £30,000 y flwyddyn

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 10am, dydd Gwener 30 Awst 2024

Mae NoFit State yn gyflogwr Cyfle Cyfartal ac mae’n croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned.

Os oes arnoch angen fformat gwahanol neu help â’r broses ymgeisio oherwydd anghenion penodol, cysylltwch â lizzy@nofitstate.org neu ffonio 02921 321 026

 

Dyddiad cau: 30/08/2024