35 awr yr wythnos

Contract am gyfnod penodol o 12 mis, i gychwyn ym Mawrth 2022

Cyflog: £45,000

Lleoliad: Fel rheol gellir cyflawni'r rôl yma o unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru yng Nghaerdydd, Bae Colwyn neu Gaerfyrddin. Rydyn ni'n gweithio gartref ar hyn o bryd.

Am y rôl

Mae rôl Rheolwr y Rhaglen Natur Greadigol yn un newydd a chyffrous, a'i nod yw gwireddu'r Rhaglen Natur Greadigol.  Bwriedir i'r swydd gyflawni rôl pontio, gan lywio'r gwaith ymchwil, cyfathrebu, datblygu polisi a chyflawni prosiectau rhwng Cyngor Celfyddydau a Chyfoeth Naturiol Cymru. 

Bydd Rheolwr y Rhaglen Natur Greadigol yn gweithio mewn tîm sy'n cynnwys Rheolwr Portffolio yng Nghyngor Celfyddydau Cymru ac Ymgynghorydd Arbenigol Arweiniol yng Nghyfoeth Naturiol Cymru, gyda chymorth timau perthnasol eraill ac arweiniad strategol Cyfarwyddwr Cyngor Celfyddydau Cymru sydd â chyfrifoldeb dros Ddeddf Cenedlaethau'r Dyfodol. 

Dyma'r meysydd gwaith allweddol i'w cyflawni:

Gwobrau Cymrodoriaeth Natur Greadigol – darparu cyfleoedd trawsnewidiol ar gyfer artistiaid ar draws gwahanol fathau o gelfyddydau er mwyn creu gwaith newydd yn yr amgylchedd neu am yr amgylchedd, ac er mwyn herio ffyrdd sefydledig o weithio. Y bwriad yw creu rhwydwaith o genhadon, a gaiff eu llywio gan raglen ddatblygu bwrpasol sy'n cael ei chyflawni gan amrywiaeth o bartneriaid arbenigol, gan rannu dysg a syniadau trwy weithgareddau cysylltu cyhoeddus.

Strategaeth Ddatgarboneiddio'r Sector Ddiwylliannol – datblygu ein hymrwymiad i fynd i'r afael ag Argyfwng yr Hinsawdd â'r nod o glustnodi meysydd lle gall Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru gydweithio â phartneriaid a rhanddeiliaid arbenigol eraill i gynorthwyo'r sector creadigol i symud tuag at garbon sero net.

Strategaeth Gyfathrebu Natur Greadigol –­ hyrwyddo gweithgareddau'r rhaglen Natur Greadigol, rhannu adnoddau a gwybodaeth a, ac ychwanegu at ddigwyddiadau cynlluniedig i gysylltu'r cyhoedd.

Amdanoch chi

Rydych chi'n angerddol ynghylch y celfyddydau, yr amgylchedd a mynd i'r afael ag argyfwng yr hinsawdd. Rydych chi'n rheolwr prosiect medrus, a bydd ein gwaith yn y rôl yma'n cynnwys cyfrifoldeb dros reoli prosiect y Rhaglen Natur Greadigol, gan sicrhau bod y gwaith yn cael ei gyflawni'n brydlon ac o fewn y gyllideb.

Yn ddelfrydol byddwch chi'n gallu dechrau yn y rôl ym mis Mawrth 2022 yn amodol ar gwblhau'r archwiliadau cyn cyflogi.

Sut i ymgeisio

Anfonwch fynegiant o ddiddordeb, CV a'r Ffurflen Fonitro Cyfleoedd Cyfartal at AD@celf.cymru  

Gellir cyflwyno mynegiannau o ddiddordeb ar ffurf Word neu PDF. Os hoffech gyflwyno'ch cais mewn fformat arall, cysylltwch ag AD.

Dylai eich mynegiant o ddiddordeb ddweud wrthym pam fod diddordeb gennych yn y rôl, sut y byddech yn mynd ati i gyflawni'r gwaith, a sut rydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol yn adran 'sgiliau, gwybodaeth ac ymddygiad' y disgrifiad swydd.

Rydyn ni'n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg a byddai rhuglder yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl. Rydyn ni'n cynorthwyo ein holl staff i ddatblygu a gwella eu sgiliau iaith.

Dyddiad cau:                         12:00pm canol dydd, dydd Gwener 21 Ionawr 2022

Cyfweliadau (trwy fideo):       2ail/3ydd Chwefror 2022

Dyddiad dechrau:                  Mawrth 2022 (yn amodol ar yr archwiliadau cyn cyflogi)

Mae ein buddion yn cynnwys oriau/patrymau gwaith hyblyg a gwyliau hael.

Rydyn ni'n gweithredu Polisi Recriwtio Cyfle Cyfartal ac yn croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymuned yn Gymraeg neu Saesneg. Byddem yn croesawu'n arbennig geisiadau gan ymgeiswyr sy'n anabl, yn F/fyddar a/neu yn niwroamrywiol sy'n gallu dod â'u profiadau bywyd eu hunain i'r rôl.

Am y gall natur y sefydliad fod yn newydd neu'n anghyfarwydd i chi, bydd Cyngor y Celfyddydau'n darparu cymorth i sicrhau eich bod chi'n teimlo'n gyffyrddus wrth ymuno â'r sefydliad fel y gallwch fod y gorau y gallwch chi yn y gweithle. Darperir mentora neu hyfforddiant yn ystod y cyfnod cyflwyno os oes angen.