Lleoliad cerddorol llawr gwlad ac elusen yng nghanol Caerdydd yw Clwb Ifor Bach, ac mae wedi bod yn gartref i gerddoriaeth newydd a cherddoriaeth sy’n dod i’r amlwg yn y brifddinas ers dros 40 mlynedd.
Trosolwg o’r Prosiect
Mae Clwb Ifor Bach yn paratoi i ddechrau cam newydd yn ei gylch bywyd. Ar ôl gweithredu fel cwmni buddiannau cymunedol tan yn ddiweddar, aeth y Cyfarwyddwyr (ar y pryd) ati i droi’r sefydliad yn elusen gofrestredig, gyda’r uchelgais o ddarparu budd i’r cyhoedd ar draws ecoleg cerddoriaeth gyfoes Cymru. Bydd y prosiect cynllunio busnes yma’n cefnogi’r Ymddiriedolwyr i wireddu’r uchelgais greadigol ar gyfer y sefydliad, drwy gynllunio a pheilota rhaglen ehangach o waith artistig.
Bydd y prosiect yn allweddol i ddatblygu rhaglen artistig a chynllun gweithredu ategol ar gyfer yr elusen, sydd wedi’u llywio gan brofiad y sefydliad, anghenion y sector cerddoriaeth gyfoes yng Nghymru, gan ddysgu gan leoliadau cerddoriaeth elusennol blaenllaw ledled Prydain a chysylltu gydag ystyriaethau polisi allweddol ehangach a blaenoriaethau’r llywodraeth, fel y strategaeth ddiwylliannol newydd, y gwaith i ddod yn genedl llesiant, y strategaeth sgiliau, blaenoriaethau’r tasglu anabledd, a chynllun gwrth-hiliaeth Cymru.
Prif dasgau
- Sefydlu sylfaen cyfraniad Clwb Ifor i’r ffrydiau gwaith a nodir yn y Theori Newid.
- Pennu meysydd i’w gwella mewn gwaith presennol, a meysydd gwaith newydd.
- Ffurfioli’r gwaith adrodd, rheoli a sicrwydd ansawdd mewn perthynas â’r broses yma
- Nodi partneriaid allweddol a dulliau gweithio
- Cyflawni arfarniad adnoddau
- Gwella dealltwriaeth cynulleidfa bresennol Clwb Ifor, a’r potensial ar gyfer datblygu yn seiliedig ar segmentu’r gynulleidfa
- Ystyriaethau dwfn penodol mewn perthynas â Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a hygyrchedd
- Cynnig gwaith craffu i gynlluniau drwy ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol yn fewnol ac yn allanol
- Cysylltu cynlluniau artistig â dyheadau datblygu cyfalaf Clwb Ifor
- Dadansoddi risg – datblygu proses o fesur effaith a fframwaith sicrhau ansawdd / gwerthuso ehangach
- Integreiddio’r cynllun artistig i’r cynllun busnes ehangach
- Gweithio gydag Ymddiriedolwyr i fireinio’r Theori Newid
- Rheoli Grŵp Ymgynghorol y Prosiect i sicrhau bod manteision llawn eu gwybodaeth yn cael eu gwireddu yn y prosiect
- Trosglwyddo’r Cynllun Artistig i Staff ac Ymddiriedolwyr mewn ffordd ystyrlon
- Nodi dysgu allweddol i’w ledaenu’n allweddol
Sgiliau a phrofiad allweddol
- Cychwyn prosiectau a strategaethau
- Dealltwriaeth o rai o’r meysydd canlynol o leiaf – blaenoriaethau yn y Rhaglen Lywodraethu, Nodau Cenedlaethau’r Dyfodol, Modelau Datblygu’r Sector Diwylliannol, y rhwydwaith lleoliadau cerddoriaeth yng Nghymru, a’r Sector Cerddoriaeth Gyfoes (Cymru a/neu gwledydd Prydain).
- Cyfathrebwr da
- Sgiliau ymchwil ac ymgynghori
- Cynllunio ariannol
- Gofynion gweithredu elusennol
- Fframweithiau sicrhau ansawdd ac effaith
- Datblygu dogfennau strategol
- Y gallu i gyfuno proses gyda chyfle
----
Crynodeb o’r Swydd: Swydd Lawrydd / Gweithio o Bell
Ffi: hyd at £28,000 (ex. TAW)
Dyddiad Cau: 08/03/24
Hyd y Prosiect: Gwaith i’w gwblhau cyn diwedd 2024
Bydd angen i ymgeiswyr anfon CV a llythyr eglurhaol drwy e-bost i rebecca@clwb.net erbyn y dyddiad cau a nodwyd uchod. Os hoffech drafod y swydd neu gael rhagor o wybodaeth am ein Theori Newid cyn gwneud cais, cysylltwch â guto@clwb.net. Yn eich llythyr eglurhaol a fedrwch chi nodi eich cyfradd dyddiol a’r nifer o ddiwrnodau rydych yn ei rhagweld fydd ei angen i gwblhau’r prosiect.
Mae'r swydd yma’n cael ei chefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru trwy’r Gronfa Creu, sef rhaglen ariannu’r Celfyddydau y Loteri Genedlaethol.