Llawn amser, 37 awr yr wythnos

Cytundeb parhaol

Gradd D: Cyflog cychwynnol o £44,718

Lleoliad: Gellir lleoli’r rôl hon yn unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru (Bae Caerdydd, Caerfyrddin, Bae Colwyn). Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn ffordd hybrid.

Mae ein buddion yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau blynyddol, 2.5 diwrnod braint, oriau/patrwm gweithio hyblyg, , cynllun beicio i'r gwaith a phensiwn cyflog terfynol (6%).

Am y rôl 

Mae'r rôl hon fel Rheolwr Perthynas - Cerddoriaeth yn cynnig y cyfle i fod yn gysylltydd allweddol o fewn sîn gerddoriaeth amrywiol Cymru. Byddwch yn gweithio gyda thîm arbenigol i feithrin perthnasoedd cryf ar draws genres a chymunedau, gan sicrhau bod cerddoriaeth Gymreig yn cael ei dathlu a'i chefnogi ar bob lefel. Bydd eich presenoldeb mewn digwyddiadau a'ch cydweithio â chydweithwyr yn helpu i gyflawni nodau strategol wrth ymgorffori'r Iaith Gymraeg, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Chyfiawnder Hinsawdd ym mhopeth a wnewch.

Amdanoch chi

Rydym yn chwilio am eiriolwr angerddol dros gerddoriaeth Gymreig, sy'n fedrus wrth feithrin perthnasoedd parhaol ar draws ystod eang o arddulliau cerddorol a chymunedau. Rydych yn gweithio ar y cyd, gydag ymrwymiad i amrywiaeth, cynaliadwyedd a blaenoriaethau diwylliannol Cymru. Yn hyderus ac yn weladwy, rydych yn ymgysylltu'n ddilys ag artistiaid a sefydliadau i helpu i dyfu ecosystem cerddoriaeth fywiog Cymru.

Yr Iaith Gymraeg

Mae stori pawb gyda’r iaith yn wahanol ac rydym yn cydnabod bod lefelau gallu a hyder yn amrywio o berson i berson. Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n deall diwylliant y wlad; perthynas amrywiol pobl Cymru gyda’r iaith Gymraeg ac sy’n ymrwymo i ddatblygu defnydd blaengar o’r Gymraeg yn ieithyddol a diwylliannol o fewn Cyngor y Celfyddydau a’r sector ehangach. Bydd angen dysgu sgiliau Cymraeg os nad ydych yn gallu’r Gymraeg eisoes. Byddwn yn sicrhau eich bod yn derbyn y gefnogaeth berthnasol i gynyddu neu ddysgu sgiliau Cymraeg.

Amrywiaeth a chynhwysiant

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig. 

Bydd y Cyngor Celfyddydau yn darparu cefnogaeth i sicrhau eich bod yn teimlo’n gyffyrddus yn ymuno â’r sefydliad, y math a all fod yn newydd neu’n anghyfarwydd i chi, fel y gallwch deimlo’ch gorau yn y gwaith. Bydd mentora neu hyfforddiant hefyd yn cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod ymsefydlu, os bydd angen

Cynllun Hyderus o ran Anabledd

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, sy'n ymroddedig i gyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r holl feini prawf hanfodol a nodir yn y fanyleb person.

Cyfeiriwch at ddolen Cynllun Cyflogwr hyderus o ran anabledd Gov.uk am ragor o fanylion. 

Sut i ymgeisio

Cyflwynwch Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn fformat Word i AD@celf.cymru. Os hoffech chi gyflwyno’ch cais mewn fformat arall, fel nodyn llais, fideo neu fideo Iaith Arwyddion Prydain, cysylltwch â ni yn gyntaf os gwelwch yn dda.

Dyddiad cau:                   5yh, Dydd Gwener 29 Awst 2025

Cyfweliadau:                   16eg a'r 17eg o Fedi 2025 (Mewn person yn ein Swyddfa yng  Nghaerdydd)             

Gweithio hyblyg

Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol byddwn hefyd yn ystyried cynigion ar gyfer trefniadau gweithio hyblyg neu rannu swydd. 

Nodwch yn glir yn eich cynnig ar gyfer unrhyw beth heblaw gweithio’r oriau a hysbysebwyd yn eich e-bost eglurhaol wrth gyflwyno’ch cais.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu’r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a’u croesawu’n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig. 

Dogfen04.08.2025

Pecyn Swydd: Rheolwr Perthynas - Cerddoriaeth