Rhaglen ar-lein 5 mis o hyfforddi a mentora i fenywod sy’n gweithio ac sydd eisiau gweithio yn y diwydiannau creadigol. Ar gyfer artistiaid sefydledig a newydd, pobl greadigol, gweinyddwyr a gweithwyr proffesiynol. Beth bynnag fo'ch rôl, beth bynnag fo'ch cam gyrfa.
Mae’r rhaglen hon yn berffaith ar gyfer y rhai sydd ar adegau trosiannol yn eu gyrfa neu ymarfer, yn ogystal â’r rhai sydd â diddordeb mewn gwneud rhywbeth newydd ac sydd angen peth amser i ystyried, cynllunio a gwneud.
Dyddiad cau: 26/10/2023