I ddweud Diolch i Chi am godi mwy na £1.75 biliwn ar gyfer achosion da yng Nghymru dros y 25 mlynedd diwethaf, bydd prosiectau a lleoliadau led led Cymru, sydd wedi derbyn arian gan y Loteri Genedlaethol, yn agor am ddim neu’n darparu cynigion arbennig i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Mae dydd Sadwrn 23 Tachwedd yn nodi dechrau’r ymgyrch #DiolchIChi, lle y gall chwaraewyr y Loteri fwynhau mynediad am ddim neu gynigion arbennig am naw diwrnod mewn cannoedd o brosiectau a ariennir gan y Loteri Genedlaethol ar draws Cymru a’r DU.
Yng Nghymru, mae’r Ymgyrch #DiolchIChi yn cael ei gefnogi gan Elis James, y comedïwr Cymreig. Ymwelodd â Chastell Caerdydd yn ddiweddar, sef un o gannoedd o leoedd a ariennir gan y Loteri Genedlaethol yn y DU sy’n cynnig naill ai mynediad am ddim neu gynigion arbennig eraill. Mae’n ymddangos mewn ffilm tafod mewn boch sy’n dweud wrth y gwylwyr ei fod wedi ‘prynu’ y castell 900 mlwydd oed gan gyflwyno ei ganllaw unigryw ei hunan i’w hanes. Gwyliwch y fideo llawn yma - fe allech dybio ei fod yn meddwl mai ef sy’n ei berchen!
Mae rhai o’r prosiectau a lleoedd a ariennir gan y Loteri Genedlaethol yng Nghymru sy’n cymryd rhan trwy gynnig mynediad neu deithiau tywys am ddim yn cynnwys:
- Canolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd;
- Gwarchodfa Natur y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar yn Ynys-hir ger Machynlleth;
- Gerddi Dyffryn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Mro Morgannwg;
- Pwll Cenedlaethol Cymru yn Abertawe;
- Eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Llanerchaeron, yng Ngheredigion;
- Plas Erddig, eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ger Wrecsam;
- Castell a Gerddi Powys ger Y Trallwng; a
- Manordy Llancaiach Fawr, ger Nelson.
Dywedodd Ros Kerslake, Prif Weithredwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol: “Does dim rhaid i chi deithio’n bell yn y DU i weld rhai o’r prosiectau gwych y mae’r Loteri Genedlaethol wedi helpu i’w hariannu. O barciau hanesyddol, tirweddau naturiol godidog a thrawiadol i eglwysi cadeiriol, amgueddfeydd a threftadaeth ddiwydiannol, dyma’r mannau yr ydym yn dal yn agos at ein calonnau a heb chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, ni fyddai dim o hyn yn bosibl. Dyma’r ffordd berffaith i ni ddweud “diolch yn fawr.”
Bydd #DiolchIChi yn cael ei gynnal o ddydd Sadwrn 23 Tachwedd tan ddydd Sul 1 Rhagfyr 2019.
Gallwch ddefnyddio unrhyw docyn neu gerdyn crafu’r Loteri Genedlaethol – hen neu newydd – i dderbyn mynediad am ddim, prisiau gostyngol a chynigion arbennig eraill mewn lleoliadau a ariennir gan y Loteri Genedlaethol ar draws y DU.
Mae lleoliadau chwaraeon, canolfannau cymunedol, prosiectau awyr agored a thirweddau ynghyd â lleoliadau ffilm a theatr, a llawer iawn mwy wedi dod o hyd i ffyrdd arbennig o ddweud diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol fel rhan o #DiolchIChi.
Edrychwch ar thankstoyou.org.uk i ddod o hyd i gynigion pellach sy’n agos atoch chi ac ar gyfer yr amodau a thelerau llawn.