Gwahoddir awduron, beirdd a chyfieithwyr o Gymru sy'n dod i'r amlwg i wneud cais am le mewn dewis o bum lleoliad yn ystod 2024-2025. Bydd dau ymgeisydd dethol yn derbyn gwobr ariannol a phecyn i gynnwys eu holl gostau, gan gynnwys teithio, llety, a lwfans dyddiol tra'n treulio o leiaf pythefnos yn eu lleoliad dewisol.
LLEOLIADAU, HYD Y PRESWYLIADAU A'R RHAGLEN A GYNIGIR
- Mljet, Croatia
- Pryd: Rhwng Ionawr a Mawrth 2025
- Hyd: Hyd at 3 wythnos
- Rhaglen ar gyfer: Awduron Rhyddiaith, Beirdd, Cyfieithwyr
- Larissa, Gwlad Groeg
- Pryd: Awst - Medi 2024
- Hyd: 2-3 wythnos
- Rhaglen ar gyfer: Beirdd yn unig
- Belgrade, Serbia
- Pryd: Rhwng Ionawr a Mawrth 2025
- Hyd: Hyd at 4 wythnos
- Rhaglen ar gyfer: Awduron Rhyddiaith, Cyfieithwyr
- Valletta, Malta
- Pryd: Yn ystod ail hanner mis Awst 2024
- Hyd: 2 wythnos
- Rhaglen ar gyfer: Awduron Rhyddiaith, Beirdd, Cyfieithwyr
- Prague, Gweriniaeth Tsiec
- Pryd: Tachwedd 2024
- Hyd: 2 wythnos
- Rhaglen ar gyfer: Beirdd yn unig
Dyddiad cau: 13/04/2024