Rydym yn chwilio am 10 perfformiwr Cymreig neu sydd wedi'u lleoli yng Nghymru sy'n frwd am symudiad a dawns i fod yn gast craidd i ni ar gyfer y digwyddiad untro cyffrous hwn o'r enw OLYMPIC FUSION.

 

Bydd OLYMPIC FUSION yn dod â phedair cymuned sy'n gysylltiedig â'r ychwanegiadau

mwyaf newydd at y Gemau Olympaidd at ei gilydd - sglefrfyrddwyr, syrffwyr, dringwyr a bregddawnswyr. Gan ddefnyddio dylanwadau o amryfal gyfeiriadau, bydd y brodyr Matsena yn rhoi eu hymagwedd amlddisgyblaeth unigryw ar waith i gysylltu'r pedair camp nodedig hyn drwy bŵer rhythm a dawns i greu perfformiad dwys a chyffrous ddydd Sadwrn 5 Hydref 2024.

 

Mae'r cyfle hwn yn agored i bawb, o bobl broffesiynol i'r rheini sy'n symud gartref ac o unrhyw ddisgyblaeth.

 

Rydym yn gweithio i fod mor gynhwysol â phosib ac yn hyrwyddo'r Model Cymdeithasol o Anabledd. Rydym yn annog ceisiadau gan bobl â namau a gofynion mynediad penodol. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon. Byddwn yn gwneud popeth y gallwn i geisio chwalu unrhyw rwystrau a all eich atal rhag cymryd rhan yn y prosiect.

 

Gwybodaeth allweddol

Clyweliadau - cânt eu cynnal yn Abertawe (lleoliad i'w gadarnhau) dros 3 sesiwn grŵp tebyg i weithdy

Dydd Mercher 3 Gorffennaf, 6.30pm - 8.30pm

Dydd Sadwrn 6 Gorffennaf, 11am - 1pm

Dydd Sadwrn 6 Gorffennaf, 2pm - 4pm

Ymarferion - dydd Llun 23 Medi i ddydd Gwener 4 Hydref - mae'r amserlen union i'w chadarnhau ond byddwch yn gweithio hyd at 40 awr yr wythnos.

Dyddiad y digwyddiad - 5 Hydref

Ffi am ymarferion a berfformiadau - £620 yr wythnos

Treuliau - Os nad ydych yn byw yn Abertawe neu'n agos i Abertawe yna gallwn ystyried darparu llety neu gyfrannu at gostau cymudo ar gyfer yr ymarferion a'r digwyddiad (yn anffodus, ni allwn gynnig unrhyw gymorth ariannol ar gyfer y clyweliadau).

I ymgeisio

Anfonwch fideo byr ohonoch yn symud a/neu CV i Olympic_fusion@deryncoch.com

Nid oes angen profiad proffesiynol blaenorol er mwyn gwneud cais.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw dydd Gwener 21 Mehefin am 1pm

Byddwn yn rhoi gwybod i ymgeiswyr sy'n cael eu gwahodd i'r clyweliadau erbyn 5pm ddydd Mawrth 25 Mehefin.

Ni fyddwn yn cysylltu ag ymgeiswyr aflwyddiannus.

Dyddiad cau: 21/06/2024