Yn y cyfnod 12 Tachwedd 2018-15 Chwefror 2019, roeddem ni wedi cynnal ymgynghoriad cynhwysfawr â’r cyhoedd am ddyfodol arian y Loteri Genedlaethol i gelfyddydau Cymru.
At ei gilydd roeddem ni wedi cwrdd â 212 o bobl yn ein cyfarfodydd cyhoeddus ledled Cymru a chael 164 ymateb ysgrifenedig am 12 pwnc yr ymgynghoriad. Rydym ni wedi treulio llawer o amser yn adolygu ac ystyried yr hyn roeddem ni wedi’i glywed oddi wrthych. Nawr hoffem ni rannu ein hymatebion: cewch ddod o hyd i'r ddogfen yma.
Rhaid i’r broses fod yn sgwrs sy’n parhau. Hoffem ni wahodd eich sylwadau am y casgliadau hyd yma.
Eich sylwadau chi
I ymateb, defnyddiwch ein ffurflen ar-lein: yma neu e-bostiwch eichllais@celf.cymru
Wrth ymateb, nodwch ai fel unigolyn neu sefydliad neu’r ddau rydych chi’n cynnig eich sylwadau. Dywedwch wrthym eich Awdurdod Lleol a lle rydych yn seiliedig.
Dyddiad cau i chi gyflwyno eich sylwadau yw Dydd Mercher 26ain mis Mehefin.
Y camau nesaf
Byddwn ni’n gwrando'n ofalus ar eich sylwadau cyn cyhoeddi Strategaeth derfynol y Loteri Genedlaethol ym mis Gorffennaf. Bydd rhai rhaglenni ariannu’n derbyn ceisiadau o Fedi ymlaen. Ond bydd mentrau penodol eraill yn cael eu cyhoeddi’n ddiweddarach yn y flwyddyn o bosibl.