Rydym wrth ein bodd ein bod yn cynllunio gŵyl Morlun eleni, a gynhelir ym Mhorthcawl ar 31 Mai a 1 Mehefin. 

Rydym yn chwilio am theatr stryd hwyliog, ddyfeisgar ac effeithiol, crwydro ac amrywiaeth o gelfyddydau awyr agored a fyddai'n cyd-fynd â'n thema forol/glan môr/amgylcheddol. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan artistiaid heb gynrychiolaeth ddigonol. 

Os oes gennych chi waith a fyddai'n cyd-fynd â'n cefndir hardd yna anfonwch gymaint o wybodaeth â phosib i nicola.edwards@awen-wales.com erbyn dydd Mercher 5 Chwefror. 
 

Dyddiad cau: 05/02/2025