I gydnabod canmlwyddiant ers geni Islwyn Ffowc Elis, un o feibion amlycaf ardal Wrecsam, rydym am i artistiaid gyflwyno syniadau ar sut y gallent ymateb drwy gerddoriaeth i’w nofel ffuglen-wyddonol epig: Wythnos yng Nghymru Fydd.
Mae Medal y Cyfansoddwr – Cymru Fydd yn llwybr sy’n cynnig cyfle â thâl i dri chrëwr cerddoriaeth i gyfansoddi ar gyfer ensemble siambr o Sinfonia Cymru.
Bydd y tri chyfansoddwr detholedig yn gweithio gyda Simmy Singh (ffidl), David Shaw (ffidl/fiola) a Garwyn Linnell (sielo) mewn gweithdai dros gyfnod o chwe mis, yn arwain at yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam, ble fydd perfformiad byw o’u gweithiau ar ddiwrnod olaf yr Eisteddfod yn y Pafiliwn ar ddydd Sadwrn 9 Awst 2025. Bydd un o'r tri chyfansoddwr yn derbyn Medal y Cyfansoddwr a gwobr o £750.
Bydd tri chyfansoddwr dethol yn derbyn ffi o £500 yr un am gymryd rhan yn y gweithdai wyneb-i-wyneb a chysylltiadau ar-lein. Croesewir ceisiadau gan gyfansoddwyr cerddoriaeth o bob rhan o Gymru, o unrhyw genre, a chyfrannir costau teithio (o fewn Cymru) i’r gweithdai (Caerdydd) a’r perfformiad (Maes yr Eisteddfod, Wrecsam).
Mae’r llwybr yn cael ei rhedeg gan Tŷ Cerdd mewn partneriaeth a’r Eisteddfod Genedlaethol, Sinfonia Cymru, a Chymdeithas Cerddoriaeth Cymru, yn gweithio gyda mentor-cyfansoddwr, Pwyll ap Siôn dros chwe mis.
Bydd yr artistiaid yn derbyn y cyfle i’w gwaith gorffenedig gael ei gyhoeddi gan Tŷ Cerdd.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 10:00 dydd Mawrth 7 Ionawr