Gwnewch gais i ddod yn aelod o Urdd Gwneuthurwyr Cymru

Sefydliad aelodaeth celf a chrefft gymhwysol genedlaethol sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd yw'r Urdd Gwneuthurwyr Cymru. Mae'r sefydliad yn bodoli i ennyn diddordeb ac ysbrydoli cynulleidfaoedd fel canolfan ragoriaeth ar gyfer celf a chrefft gymhwysol, ac i hyrwyddo gwneuthurwyr crefft Gymreig. Ein pwrpas craidd yw ysbrydoli, gefnogi a dathlu.

  • Ysbrydoli ymgysylltiad crefft - Mae'r Urdd yn ysbrydoli ymgysylltiad a dysgu am grefft gyfoes, trwy ddarparu cyfleoedd i gynulleidfaoedd ac artistiaid brofi celf a chrefft gymhwysol gyfoes yng Nghymru.
  • Cefnogi gwneuthurwyr crefft Gymreig - Mae'r Urdd yn sefydliad aelodaeth o grefftwyr Cymreig sydd oll yn rhannu ethos cydweithredol yr Urdd.
  • Dathlu rhagoriaeth crefft - Hyrwyddo celf a chrefft ymarferol o safon uchel yng Nghymru, gan ei aelodau a gan artistiaid cenedlaethol a rhyngwladol gwahoddedig.

Mae Urdd Gwneuthurwyr Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i'w nodau elusennol, sef hyrwyddo a chadw sgiliau celf a chrefft gymhwysol, trwy gyflwyno celf a chrefft gymhwysol o'r safon uchaf i'r cyhoedd ei weld yn ei oriel, Crefft yn y Bae yng nghanol Bae Caerdydd. Mae'r Urdd wedi llwyddo i reoli a chynnal ei Amcanion Elusennol ers dros 34 mlynedd, sef:

"Hyrwyddo addysg er budd y cyhoedd yng Nghelf a Chrefft weledol gan arddangos crefftau o ansawdd uchel a darparu rhaglenni gweithdai yn yr oriel."

Os ydych chi'n wneuthurwr crefftau proffesiynol ac yn byw a / neu'n gweithio yng Nghymru ac yr hoffech ddod yn rhan o rwydwaith o wneuthurwyr talentog ac uchel eu parch, beth am wneud cais i ymuno â ni.

Ymuno ag Urdd Gwneuthurwyr Cymru
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl crefft broffesiynol sy'n creu a chynhyrchu crefftau cyfoes sy'n dangos undod dylunio, crefftwaith ac arloesi.

Mae'r Urdd yn ffynnu ar gyfranogiad gweithredol gan ei aelodau; er enghraifft stiwardio, helpu gydag arddangosfa mewn oriel a / neu arddangosfeydd, eistedd ar y Panel Dewis, pwyllgorau'r Urdd a Bwrdd yr Ymddiriedolwyr pan wahoddir hwy.

Mae Urdd Gwneuthurwyr Cymru wedi esblygu a thyfu dros y blynyddoedd ac maent yn falch o'r lefel o gefnogaeth y gallwn ei ddarparu yn yr ardaloedd a restrir isod:

Oriel Crefft yn y Bae
Trwy ei raglen aelodaeth, mae Urdd Gwneuthurwyr Cymru yn cynnig y cyfle i weithwyr crefftau arddangos a gwerthu eu gwaith yn eu horiel sefydledig ac uchel ei barch, Crefft yn y Bae.

Rhwydweithio a rhannu gwybodaeth
Cyfleoedd rhwydweithio a chysylltu â gwneuthurwyr crefftau eraill a darpar gleientiaid drwy'r sefydliad, e.e deunydd hyrwyddo a ddangosir yn yr oriel, arddangosfeydd preifat, digwyddiadau cymdeithasol wedi'u targedu yng Nghrefft yn y Bae. Mae'r Urdd hefyd yn elwa o 'Gynllun Cyfeillion' sy'n cefnogi'r Urdd. Fel aelod, cewch gyfle i arddangos eich gwaith trwy ein sgyrsiau / digwyddiadau rheolaidd 'Cwrdd â’r Cynllunydd'. Byddwch yn cael eich cynrychioli'n barhaol gyda thudalen proffil â delweddau ar wefan yr Urdd.

Arddangosfeydd Dethol - Mewnol / Allanol
Fel aelod, cewch gyfle i gymryd rhan mewn arddangosfeydd dethol yng Nghrefft yn y Bae a / neu arddangosfeydd allanol mewn lleoliadau eraill. Arddangos casgliad gwaith newydd yn ein rhaglen arddangosiadau unigol. Cyflwyno cais ar gyfer arddangosfeydd a / neu sioeau wedi’u curadu.

Addysgu a Datblygiad Proffesiynol
Cyfleoedd tiwtorio â thaliadau yn ein rhaglen weithdy blynyddol o ddosbarthiadau dydd a gynhelir yng Nghrefft yn y Bae sydd wedi'i anelu at oedolion a phlant. Prosiectau allgymorth gydag Ysgolion a Cholegau pan fyddant ar gael. Un o nodau'r Urdd yw cefnogi a meithrin eu haelodau yn eu harfer proffesiynol eu hunain a chynnig a / neu ei hysbysu o weithdai a digwyddiadau wedi'u targedu yng Nghymru ac yn y DU.

Sut i wneud cais
Am ragor o fanylion ar fuddion bod yn aelod, lawr lwythwch ffurflen Gwybodaeth am Gais Aelodaeth MGW.  Ystyrir ceisiadau unwaith y flwyddyn; Sylwer, y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1af o Fawrth. Fe ddewisir yr aelodau gan banel o weithwyr proffesiynol gan gynnwys gweithwyr ac aelodau MGW.

Os hoffech wneud cais i fod yn aelod, lawr lwythwch y Ffurflen Gais a Gwybodaeth am y Cais isod. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar 029 2048 4611 neu e-bostiwch cindy@makersguildinwales.org.uk 
 

Dyddiad cau: 01/03/2025