Mae Theatr Iolo a Glan yr Afon yn chwilio am ysgolion yn ardal Casnewydd a’r cyffiniau i gymryd rhan yn PLAYHOUSE 2024.
Mae Playhouse yn ysbrydoli ac yn ymrymuso ysgolion drwy wneud theatr: cysylltu ysgolion â theatrau, sgwenwyr sgriptiau a gwneuthurwyr theatr proffesiynol.
Cyflenwir Playhouse yn genedlaethol drwy hyd a lled gwledydd Prydain, yn gywaith theatr cenedlaethol cyfranogol digymar sy’n cysylltu ysgolion â theatrau, sgwenwyr sgriptiau a gwneuthurwyr theatr proffesiynol fel y gellir eu hysbrydoli a’u hymrymuso i brofi manteision gwneud theatr broffesiynol.
PLAYHOUSE:
- Mae’n meithrin cysylltiadau cenedlaethol yng ngwledydd Prydain rhwng theatrau ac ysgolion.
- Mae’n llywyddu’r llyfrgell enfawr o sgriptiau ar archeb, wedi’u comisiynu’n arbennig sydd wedi’u bwriadu at oed a maint dosbarthiadau plant.
- Mae’r plant a’r athrawon yn gweithio ochr yn ochr â dramodwyr proffesiynol sy’n sgwennu sgriptiau perthnasol i blant heddiw.
- Mae’n cynnig profiad bywyd cadarnhaol i blant sy’n hirhoedlog ei effaith drawsffurfiol.
- Perfformio eich drama ar lwyfan theatr broffesiynol.
I'R ATHRAWON
Rhaglen Datblygiad Proffesiynol Parhaus gynhwysfawr sy’n cyfoethogi ac sy’n cysylltu theatrau â dramodwyr a gwneuthurwyr theatr. Mae’r athrawon yn dysgu technegau ymarfer a chyfarwyddo ac yn datblygu’r medrau a’r hyder sydd eu hangen arnyn nhw i ddod â drama i’r ystafell ddosbarth.
Mae’r athrawon yn teimlo wedi’u hymrymuso drwy’r gefnogaeth ymarferol gan dîm Playhouse, sy’n ymroddedig i helpu ysgolion i oresgyn unrhyw rwystrau.
Mae’r athrawon yn cydweithio â dramodwyr proffesiynol wedi’u comisiynu’n arbennig sy’n datblygu sgriptiau sy’n berthnasol ac yn amserol i bobol ifanc heddiw. Mae cywaith Playhouse yn hawdd ei gyflenwi ac yn ymorol am y lleiaf fyw bosib o gelfi a gwisgoedd, sy’n ei wneud yn gost-effeithiol ac yn ymarferol i’w gyflawni.
I’R PLANT
Cyfle unwaith mewn oes i blant berfformio ar lwyfan o flaen eu ffrindiau, eu teuluoedd a chynulleidfaoedd cyhoeddus, ochr yn ochr ag ysgolion eraill yn y cywaith. Mae dysgu’r plant yn cael ei weddnewid a’u crebwyll ac ymwybyddiaeth o wneud theatr a medrau cymdeithasol yn gwella’n ddirfawr.
Mae gweithdai sy’n hwyl yn eu hysgolion yn cyflwyno’r plant i chwarae creadigol a thechnegau drama cyn mynd i’r theatr, yn aml am y tro cyntaf. Drwy perfume sgriptiau o safon uchel, addas at eu hoed y mae’r plant yn ei chael yn hawdd ymdeimlo â nhw ac yn eu mwynhau, maen nhw’n datblygu eu medrau actio a llafaredd, yn magu hyder a chyfeiriad meddwl sy’n tyfu o ran bod yn gadarnhaol a chyflawni.
Mae PLAYHOUSE 2024 yn cael ei gyflwyno yn Theatre Royal Plymouth, York Theatre Royal, Theatr Iolo a Landmark Theatre.
Beth arall sydd angen i mi ei wybod?
- Mae Playhouse Cymru wedi cael ei ddatblygu ar gyfer plant 9-11 oed (Blwyddyn 5 a 6)
- Bydd y ddrama yn cael ei hysgrifennu ar gyfer cast o 20-35 fel y gall pawb yn y dosbarth ei pherfformio
- Bydd gan ysgolion fynediad i sgriptiau newydd sbon, yn y Gymraeg a'r Saesneg, sydd wedi'u hysgrifennu'n benodol i'w perfformio gan blant 9-11 oed.
- Mae Playhouse Cymru yn costio £350 yr ysgol.
- Yn 2024, bydd y dramâu yn cael eu perfformio yng Nglan yr Afon yng Nghasnewydd
- Mae Playhouse yn rhedeg o fis Mawrth 2024 ac yn gorffen gyda pherfformiadau ym mis Gorffennaf 2024.
I gael rhagor o wybodaeth am PLAYHOUSE, ewch i https://www.theatriolo.com/playhouse neu cysylltwch ag aled@theatriolo.com