Rhagymadrodd
Helo, Louis George ydw i. Dwi´n goreograffydd ac yn ddawnsiwr proffesiynol o Fethesda, Gogledd Cymru. Dwi’n chwilio am ddau ddawnsiwr i ymuno â mi ar gyfer proses Ymchwil a Datblygu am bythefnos o hyd yn hydref 2024, fel rhan o’m prosiect “Cronni” a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn byrfyfyrio, ac dwi'n arbennig o agored i ddatblygu syniadau mewn unawdau a pharau. Dwi’n awyddus i gwrdd â dawnswyr sydd wedi’u lleoli yn neu o Ogledd Cymru, a hoffwn eich gwahodd i ddod i weithdy clyweliad dawns, a fydd yn agored i ddawnswyr sydd wedi eu hyfforddi a rhai sydd heb hyffordiant dawns. Mae croeso i bob gallu.
Dwi'n edrych am 2 berson, sydd:
- â brwdfrydedd dros archwilio dawns trwy gysyniadau a dygnwch corfforol
- â phrofiad mewn amrywiaeth o arddulliau dawns
- â chefndir o chwaraeon, yn dîm ac yn unigol (croeso i bob cefndir chwaraeon)
- â sydd yn byw yng Ngogledd Cymru ac yn ddigon lleol i deithio´n ddyddiol i Fangor
Mae hwn yn gyfle gyda arian:
- Y ffi fydd £550 yr wythnos x 2 wythnos i gyd
- Yn ogystal, £50 yr wythnos fel x 2 wythnos per diem
- Bydd teithio lleol ar drafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei ad-dalu o fewn radiws o 40 milltir
Dyddiadau Ymchwil a Datblygu:
- WYTHNOS 1: 4ydd – 8fed Tachwedd 2024 (Pontio, Bangor)
- WYTHNOS 2: 11eg – 15fed Tachwedd 2024 (Fran Wen, Y Selar, Bangor)
- Rhaid i ymgeiswyr fod ar gael ar yr holl ddyddiadau
Dyddiad, amser a lleoliad Gweithdy Clyweliad:
Dyddiad: 8 Hydref 2024
Amser: 1:00 – 4:00yp
Cyfeiriad: Pontio, Prifysgol Bangor, Ffordd Deiniol, Bangor Gwynedd, Gogledd Cymru, LL57 2TQ
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â mi, anfonwch eich CV, rîl sioe neu fideo o'ch perfformiad(au) dawns trwy e-bost at: louis-george@hotmail.co.uk erbyn Medi 28ain fan bellaf.
Rhowch wybod i mi am unrhyw faterion mynediad ymlaen llaw. Unrhyw gwestiynau eraill neu am sgwrs gyffredinol am fy mhrosiect, cysylltwch â mi, byddaf wrth fy modd yn clywed gennych.
Themâu a Syniadau:
Rhai o'r syniadau y byddaf yn eu harchwilio yw unigedd yn erbyn bod yn gysylltiedig ag eraill trwy symud. Mae Iechyd Meddwl a Niwroamrywiaeth yn bynciau allweddol yn yr archwiliad hwn. Hoffwn archwilio’r themâu hyn gan eu bod yn berthnasol i mi, ond maent hefyd yn bynciau cyfoes iawn sy’n effeithio ar lawer o bobl heddiw. Efallai y bydd rhai o'r syniadau hyn yn gyfarwydd i chi, ond rhoddir cynnig ar y rhan fwyaf o'r syniadau am y tro cyntaf yn y gweithdy clyweliad hwn. O’r archwiliad hwn byddwn yn datblygu iaith symud gyda’n gilydd, a byddwn yn archwilio’r themâu hyn trwy sgyrsiau, tasgau symud, rhannu, a dod â mentoriaid i mewn i weld y broses i’n herio a’n cefnogi. Edrychaf ymlaen at glywed gennych. Cofion cynnes, Louis Ellis.