Mae Visual Arts Group Wales (VAGW) yn chwilio am Weinyddwr llawrydd i gefnogi pob maes o’n gweithrediadau a'n polisïau.
Mae'r swydd hon yn golygu 100 diwrnod o waith am £250 y diwrnod, i'w chwblhau rhwng Gorffennaf 2025 – 30 Mehefin 2026.
Byddai'r swydd hon yn siwtio gweithiwr llawrydd sydd â sgiliau trefniadol ac ysgrifennu busnes cryf, a gwybodaeth gadarn am weinyddiaeth a rheoliadau nid-er-elw. Byddai dealltwriaeth o'r sector celfyddydau yng Nghymru yn fanteisiol.
Mae'r swydd hon yn rhan o gyflawni ‘Datblygiad Strategol VAGW’ a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, a bydd yn helpu gyda'r ymchwil a’r gweithredu.
Byddwch cystal â darllen ein Disgrifiad Swydd llawn cyn ymgeisio: Disgrifiad Swydd Gweinyddwr Cymraeg
Dyddiad cau: 9am Dydd Llun 14 Gorffennaf
Dyddiad y Cyfweliadau: yr wythnos yn dechrau 28 Gorffennaf 2025
I YMGEISIO:
Anfonwch CV a Llythyr Eglurhaol (o hyd ar 500 o eiriau) yn disgrifio eich profiad perthnasol a'ch diddordeb yn y swydd at visualartsgroupwales@gmail.com gyda'r llinell pwnc: Gweinyddwr VAGW.
Rhaid cyflwyno Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal wedi'i chwblhau gyda phob cais.
Byddwch cystal â chyflwyno eich cais cyn 9am dydd Llun 14 Gorffennaf 2025.
Gallwch gael mwy o wybodaeth ac ymgeisio yma