1. Cyflwyniad a Chwmpas y Prosiect
Yn 2023, datblygodd Gwasanaethau Diwylliannol Cyngor Sir Powys Strategaeth Gelfyddydau sy’n llywio sut fydd y cyngor yn parhau i gefnogi’r celfyddydau a diwylliant ledled y sir. Canfyddiad allweddol y strategaeth yw fod angen ar sefydliadau a gweithwyr llawrydd creadigol sy’n llunio sector diwylliannol bywiog Powys, ragor o gefnogaeth wrth farchnata, cyfathrebu a hyrwyddo’u gwaith.
Fel rhan o ddechrau gweithredu’r strategaeth, mae Gwasanaethau Diwylliannol wedi sicrhau arian grant oddi wrth y Gronfa Ffyniant Gyffredin i ehangu’r cylch gwaith a chyrraedd gwefan www.storipowys.org.uk fel llwyfan marchnata ar-lein i’r celfyddydau ledled y sir. Bydd hyn yn cynnwys datblygu calendr Beth Sydd Ymlaen ledled y sir i sector creadigol Powys a Chyfeirlyfr Creadigol ble gall unrhyw weithiwr llawrydd hysbysebu ei hun a’i sgiliau. Fel rhan o ledaenu’r llwyfannau ar-lein newydd oddi fewn i’r sector, rydym ni’n ceisio comisiynu gwasanaethau asiantaeth neu arbenigwr allanol i ddarparu rhaglen o ddyddiau hyfforddiant grŵp a sesiynau mentora un i un pwrpasol ( o leiaf 1 awr am bob sefydliad neu unigolyn), i helpu sefydliadau ac unigolion i wneud y defnydd mwyaf o lwyfannau ar-lein i hybu eu gwaith, gweithgareddau a sgiliau.
Rydym yn rhagweld y bydd hyfforddi a chefnogaeth yn cynnwys elfennau o ddiffinio a chyfathrebu’n effeithiol â chynulleidfaoedd, ysgrifennu testun cymhellol i’r we a’r cyfryngau cymdeithasol, a datblygu ffordd effeithiol o adrodd stori drwy destun hyrwyddo. Rydym ni hefyd yn rhagweld y bydd sesiynau cefnogi un i un yn cael eu cynnig ar sail y cyntaf i’r felin, oddi fewn i’r hyn a gytunwyd o ran clustnodi sesiynau. Fodd bynnag, yn y ddau achos, rydym ni’n awyddus i weithio gydag ac elwa o arbenigedd y cyflenwr a benodwyd wrth gytuno ar gynnwys yr hyfforddiant a rhaglen derfynol gweithgareddau.
2. Rheoli
Y cleient ar gyfer y prosiect yw Cyngor Sir Powys.
Caiff y prosiect ei reoli gan Emily Bartlett, Rheolwr Prosiect – Celfyddydau a Diwylliant
3. Sgiliau
Bydd yn rhaid i’r arbenigwr allanol gael:
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o sectorau’r celfyddydau a diwylliant.
- Profiad ac arbenigedd mewn marchnata digidol a datblygu cynulleidfa.
- Hen hanes o gyflenwi hyfforddiant oddi fewn i feysydd marchnata digidol a datblygu cynulleidfa gan ganolbwyntio’n benodol ar y sector diwylliannol a’r celfyddydau.
4. Dylai arbenigwyr allanol sydd am gael eu hystyried gyflwyno’r canlynol:
- Dyfynbris am y gwaith
- Datganiad o ddull yn amlinellu’r ymagwedd i’w dilyn, gan gynnwys graddfa amser ar gyfer y gwaith.
- Dadansoddiad o gostau.
- Amlinelliad o’r sgiliau a phrofiad proffesiynol a ddaw gyda’r arbenigwr allanol.
- Enghreifftiau o waith tebyg yr ymgymerwyd ag e.
- Amserlen y prosiect.
- Geirdaon (2).
Anfonwch gyflwyniadau i emily-francesca.bartlett@powys.gov.uk
Erbyn 8am, 2 Medi 2024
5. Graddfa Amser y Prosiect
Y dyddiad targed ar gyfer comisiynu’r gwaith yw 3 Medi 2024 gan ddechrau ar unwaith yn dilyn hynny.
Rydym ni’n rhagweld y bydd y cyflenwr a benodir yn gweithio gyda thîm y prosiect i ddatblygu’r rhaglen o weithgaredd, gan gyflenwi gweithgaredd rhwng diwedd misoedd Medi a Thachwedd 2024.
Y dyddiad targed ar gyfer cwblhau’n llwyr yw 29 Tachwedd 2024.
7. Cyllideb y Prosiect
£15,000 (heb gynnwys TAW)
8. Meini Prawf Gwerthuso
Caiff y meini prawf canlynol eu defnyddio i werthuso cyflwyniadau briff:
- 40% - gwerth ariannol y dyfynbris.
- 60% - gwybodaeth feintiol, wedi ei thorri lawr fel a ganlyn:
- 30% - ymgymryd ag asesiad o arbenigedd / gwaith tebyg.
- 30% - datganiad dull yn amlinellu ymagwedd