Dyma eich gwahodd i roi inni ddyfynbris am y gwasanaethau yn y briff canlynol a'r Atodlen atodedig.

Briff

Rydym ni am gynhyrchu 2 fideo byr (un yn Gymraeg ac un yn Saesneg) sy’n esbonio ein cronfa gyfalaf Loteri Genedlaethol a’i ffocws a chynnwys astudiaethau achos o’i phrosiectau. Gallai'r rhain gynnwys prosiectau sydd wedi'u hariannu ond nad ydynt wedi gorffen eto. Gallai enghreifftiau gynnwys:

  • YMCA Pontypridd
  • Canolfan Ucheldre Caergybi
  • Theatr Clwyd, yr Wyddgrug
  • Y Frân Wen, Bangor

Dyma ragor o fanylion am y gronfa: Sefydliadau 

Ffocws y fideo fydd egwyddorion a phwrpas y gronfa. Dylai adlewyrchu amrywiaeth daearyddol ac ethnig a gwerthoedd ein Cynllun Corfforaethol 2018-2023, "Er budd pawb" - Cynllun corfforaethol 2018-23: Er budd pawb | Arts Council of Wales (tudalen 8 yn benodol).

Rhaid i’r fideo esbonio'r gronfa'n glir i ymgeiswyr. Dylai hefyd sôn am gyfraniad chwaraewyr y Loteri Genedlaethol at ariannu’r gronfa. Dylai egluro diben y gronfa ac annog ystod eang o bobl i ymgeisio. Rydym ni am ddathlu gwytnwch a dychymyg y celfyddydau a chreadigrwydd y sefydliadau a'r artistiaid yn y sector.

Manylion llawn isod: