Cyfuno gobeithion creadigol a busnes - dyma gyfle i dreulio amser gyda'n gilydd ac ystyried ein datblygiadau busnes fel gweithwyr llawrydd a phobl greadigol. Cyfle i gwrdd â phobl eraill a meithrin cysylltiadau.
Ystyried ein breuddwydion am ein celf a'n busnes a'r hyn sy'n gwneud hynny'n anodd yn y byd heddiw. Gydag argyfwng costau byw, salwch cronig, cyfrifoldebau gofalu a cholli cymorth celfyddydol, mae llawer o resymau pam y gallwn ei chael hi'n anodd llunio'r bywyd celf rydym yn ei ddymuno.
Creu sylfaen i'ch gwaith ffynnu ar gyfer artistiaid cymunedol, perchnogion busnesau bach a phobl greadigol.
Byddwn yn ymdrin â'r canlynol:
- Dod o hyd i ofod tawel - y dechneg y byddwch chi am ei defnyddio ar gyfer pob tasg, i sicrhau nad ydych chi'n ei gor-wneud hi.
- Prisio ar gyfer cymuned a chynaliadwyedd
- Ystyried yr hyn sydd wir ei angen arnom i gwtogi rhywfaint er mwyn ffynnu a sut i'w wneud gyda charedigrwydd.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Grace: Grace Quantock Trailblazing Wellness – Wellness expert, speaker, writer, health and business coach
Mae lleoedd am ddim a bydd y gweithdy'n cael ei ffrydio ar-lein. Byddwch yn cael dolen i ymuno â'r sesiwn fore Mawrth.